The Queen

Oddi ar Wicipedia
The Queen

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Stephen Frears
Cynhyrchydd Andy Harries
Christine Langan
Tracey Seaward
Francois Ivernel (Uwch Gyfarwyddwr)
Cameron McCracken (Uwch Gyfarwyddwr)
Scott Rudin (Uwch Gyfarwyddwr)
Ysgrifennwr Peter Morganan Pinkava
Serennu Helen Mirren
Michael Sheen
James Cromwell
Helen McCrory
Alex Jennings
Roger Allam
Sylvia Syms
Cerddoriaeth Alexandre Desplat
Sinematograffeg Affonso Beato
Golygydd Lucia Zucchetti
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Pathė Pictures(Ffilm y Deyrnas Unedig)
a 20th Centruy Fox(DVD y Deyrnas Unedig
Dyddiad rhyddhau 2 Medi, 2006
Amser rhedeg 97 munud
Iaith Saesneg
Gwefan swyddogol
(Saesneg) Proffil IMDb

Ffilm ddrama Prydeinig ydy The Queen, a ysgrifennwyd gan Peter Morgan ac a gyfarwyddwyd gan Stephen Frears. Helen Mirren sydd yn chwarae rôl y prif gymeriad sef y Frenhines Elizabeth II. Rhyddhawyd y ffilm bron i ddegawd ar ôl marwolaeth Diana, Tywysoges Cymru, ym 1997 ac mae'r ffilm yn darlunio'r cyfnod yn union wedi'r digwyddiad trychinebus. Dyma oedd y cyfnod hefyd pan oedd y Prif Weinidog Llafur y Deyrnas Unedig, Tony Blair newydd ddod i bŵer.

Mae'r ffilm yn canolbwyntio yn bennaf ar y safbwyntiau gwahanol ynglŷn â'r ffordd orau i ymdrin â marwolaeth Diana. Gwêl y Frenhines, yn ogystal â'i gwr a'i mam, ei marwolaeth fel mater preifat ac na ddylai ei marwolaeth gael ei drin fel marwolaeth Brenhinol swyddogol. Cyferbynia hyn gyda safbwynt y Prif Weinidog newydd, Tony Blair, a chyn-wr Diana, y Tywysog Charles sydd yn awyddus i geisio adlewyrchu dyheadau'r cyhoedd gyda ffordd gyhoeddus o ddangos galar. Caiff materion eu cymhlethu ymhellach gan y cyfryngau, protocol brenhinol ynglŷn â statws swyddogol Diana a safbwyntiau ehangach am Weriniaetholdeb. Trwy gydol y ffilm, dim ond trwy gymeriadau eraill y gwelwn ac y clywn am safbwyntiau meibion Diana.

Actorion[golygu | golygu cod]