The Devil's Point
| Bod an Deamhain/The Devil's Point (Mynyddoedd y Cairngorms) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | Pidlen (neu bidyn) y Diawl |
| Iaith | Gaeleg yr Alban |
| Testun y llun | Corrour Bothy a Phidyn y Diafol |
| Uchder (m) | 1004 |
| Uchder (tr) | 3294 |
| Amlygrwydd (m) | 89 |
| Lleoliad | Ucheldiroedd yr Alban |
| Map topograffig | Landranger ;36 43 Explorer 403S |
| Cyfesurynnau OS | NN976951 |
| Gwlad | yr Alban |
| Dosbarthiad | Munro a Murdo |
Mae Pidyn y Diafol (Gaeleg yr Alban: Bod an Deamhain; Saesneg:The Devil's Point) yn gopa mynydd i'r gorllewin o Lairig Ghru ym mynyddoedd y Cairngorms yn Ucheldiroedd yr Alban; cyfeiriad grid NN976951. Y fam fynydd ydy Cairn Toul sydd 3 milltir i'r gogledd. Mae'n bosibl mai ystyr "Carirn Toul" ydy "Carnedd a thwll ynddi", sy'n cydfynd â Phidyn y Diafol.
Ceir carnedd ar y copa.
Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Munro a Murdo. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Gwneir bob ymdrech i ganfod yr enw yn yr iaith wreiddiol, a gwerthfawrogwn eich cymorth os gwyddoch yr enw Gaeleg.
Cynnwys |
Cerddwyr [golygu]
Y ffordd hawddaf i'r copa ydy drwy ddilyn llwybr i Coire Odhar o Corrour Bothy, ar ochr ddwyreiniol y mynydd.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr o gopaon yr Alban dros 610 metr
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 3,000' (y Munros)