The Artist

Oddi ar Wicipedia
The Artist
Logo'r ffilm
Cyfarwyddwyd ganMichel Hazanavicius
Cynhyrchwyd ganThomas Langmann
Awdur (on)Michel Hazanavicius
Yn serennuJean Dujardin
Bérénice Bejo
Cerddoriaeth ganLudovic Bource
SinematograffiGuillaume Schiffman
Golygwyd ganAnne-Sophie Bion
Michel Hazanavicius
StiwdioLa Petite Reine
ARP Sélection
Studio 37
La Class Americane
France 3 Cinema
U Film
Jouror Productions
JD Prod
Wild Bunch
Dosbarthwyd ganWarner Bros. (Ffrainc)
The Weinstein Company (UDA/Awstralia)
Entertainment Film Distributors (DU)
Rhyddhawyd gan15 Mai 2011 (Cannes)
12 Hydref 2011 (Ffrainc)
Hyd y ffilm (amser)100 munud
GwladFfrainc
IaithMud
Teitlau Saesneg
Cyfalaf$15 miliwn
Gwerthiant tocynnau$133,432,856[1]

Ffilm gomedi ramantaidd Ffrengig yw The Artist a ryddhawyd yn 2011, a gyfarwyddwyd gan Michel Hazanavicius ac yn serennu Jean Dujardin a Bérénice Bejo. Lleolir yn Hollywood rhwng 1927 a 1932 ac mae'n canolbwyntio ar y berthynas rhwng seren ffilm fud ac actores ifanc wrth i ffilmiau sain ddod yn boblogaidd. Mae mwyafrif y ffilm yn fud, heblaw am drac sain cerddorol.

Yng Ngwobrau Ffilm yr Academi Brydeinig, enillodd The Artist saith gwobr: Ffilm Orau, Cyfarwyddwr Gorau, Actor Gorau (Dujardin), Sgript Wreiddiol Orau, Sinematograffeg, Dylunio Gwisgoedd, a Sgôr Wreiddiol. Enillodd tri Golden Globe: Ffilm Orau (Sioe gerdd neu Gomedi), Actor Gorau (Sioe gerdd neu Gomedi), a Sgôr Gerddorol Orau. Yn 84fed seremoni wobrwyo yr Academi, enillodd y ffilm pump Oscar: Ffilm Orau, Cyfarwyddwr Gorau, Actor Gorau, Dylunio Gwisgoedd, a Sgôr Wreiddiol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "The Artist (2011)". Box Office Mojo. Cyrchwyd 23 June 2012.


Eginyn erthygl sydd uchod am sinema Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.