Ffilm fud

Oddi ar Wicipedia
Un o sêr mwyaf y ffilmiau mud oedd Lillian Gish

Ffilm heb drac sain syncroneiddiedig (h.y. a recordiwyd ar y pryd), yn enwedig trac sain deialog, yw film fud. Roedd y ffilm gyntaf i gael ei saethu erioed, yn 1888, yn ffilm fud. Bu'r ffilm fud ar ei hanterth yn y cyfnod 1915-1927, ond ildiodd i'r "talkies" newydd yn gyflym ar ôl 1928.

Er bod y syniad o wneud ffilmiau gyda thraciau sain recordiedig hyned â'r diwydiant ffilm ei hun, oherwydd anawsterau technegol roedd y rhan fwyaf o ffilmiau yn fud hyd y 1920au diweddar.

Cyfeirir yn aml at gyfnod y ffilm fud fel "Oes y Sgrîn Arian," am fod gan y ffilm a ddefnyddid yn y 1910au a'r 1920au sglein arianaidd.

Roedd actio mewn ffilm mud yn gofyn technegau arbennig. Byddai'r actorion yn pwysleisio emosiynau a theimladau trwy ystumiau'r wyneb, ac mae golygfeydd sy'n canolbwyntio ar wyneb yr actor(es) yn nodweddiadol o ffilmiau mud. Mewn canlyniad mae'r actio a welir yn y ffilmiau yn gallu ymddangos fel "gor-actio" i wylwyr heddiw, ond rhaid cofio fod ymateb cynulleidfaoedd cyfoes yn wahanol.

Mae sêr mawr y ffilm fud yn cynnwys Charlie Chaplin, Edna Purviance, Lillian Gish, Mary Pickford, Theda Bara, Buster Keaton a Lon Chaney.

Ymhlith cyfarwyddwyr enwocaf byd y ffilm fud gellid crybwyll Abel Gance, D. W. Griffith, Mack Sennet, Charlie Chaplin a Cecil B. DeMille.

Ffilmiau mud a wnaeth yr elw mwyaf[golygu | golygu cod]

Golygfa o Birth of a Nation

Dyma'r ffilmiau mud mwyaf proffidiol yn ôl y cylchgrawn ffilm Variety yn 1932 (gwerth y doler yn 1932) [1] Archifwyd 2011-07-08 yn y Peiriant Wayback..

  1. The Birth of a Nation (1915) - $10,000,000
  2. The Big Parade (1925) - $6,400,000
  3. Ben-Hur (1925) - $5,500,000
  4. Way Down East (1920) - $5,000,000
  5. The Gold Rush (1925) - $4,250,000
  6. The Four Horsemen of the Apocalypse (1921) - $4,000,000
  7. The Circus (1928) - $3,800,000
  8. The Covered Wagon (1923) - $3,800,000
  9. The Hunchback of Notre Dame (1923) - $3,500,000
  10. The Ten Commandments (1923) - $3,400,000
  11. Orphans of the Storm (1921) - $3,000,000
  12. For Heaven's Sake (1926) - $2,600,000
  13. Seventh Heaven (1926) - $2,400,000
  14. Abie's Irish Rose (1928) - $1,500,000