Teyrnas Kandy

Oddi ar Wicipedia
Teyrnas Kandy
Baner Brenin Kandy (1815).
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasKandy Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1469 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Tamileg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Cyfesurynnau7.296961°N 80.638453°E Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
King of Kandy Edit this on Wikidata
Map

Teyrnas Sinhalaidd a fodolai ar ynys Sri Lanca o ddiwedd y 15g i ddechrau'r 19g oedd Teyrnas Kandy (Sinhaleg: මහනුවර රාජධානිය, Tamileg: கண்டி இராச்சியம்) neu Deyrnas Senkadagala (Sinhaleg: සිංහලේ රාජධානිය, Tamileg: கண்டி இராச்சியம்). Kandy oedd y deyrnas frodorol olaf yn Sri Lanca i ildio i bwerau tramor yn ystod oes yr Hen Imperialaeth.

Sefydlwyd dinas Senkadagalapura neu Senkadagala, bellach Kandy, yn ucheldiroedd y canolbarth yn ystod ail hanner y 14g gan y Brenin Vikramabahu III (teyrnasai 1357–74) o Deyrnas Gampola, a hawliai ei llinach yn ôl i hanes traddodiadol y Tywysog Vijaya a wnaeth sefydlu gwareiddiad y Sinhaliaid yn y 5g CC. Olynwyd Gampola yn nechrau'r 15g gan Deyrnas Kotte, a lwyddai ar ei hanterth i reoli'r holl ynys, gyda Kandy yn un o'i theyrnasoedd dibynnol. Dirywiodd grym Kotte o ganlyniad i anrhaith Vijayabahu ym 1521 a thwf Ymerodraeth Portiwgal yng Nghefnfor India, ac ymgododd Kandy fel cadarnle mynyddig, wedi ei ynysu o oresgyniadau'r arfordir, i herio Kotte a'r teyrnasoedd eraill yng ngorllewin a de'r ynys. Hwn oedd cam olaf "y cyfnod trawsnewidiol" yn hanes Sri Lanca, rhwng cwymp Teyrnas Polonnaruwa ym 1232 hyd at grynhoi grym Kandy dros yr holl ynys yn niwedd yr 16g. Am y deucan mlynedd nesaf, Teyrnas Kandy oedd yr unig wladwriaeth annibynnol frodorol yn Sri Lanca. Llwyddodd brenhinoedd Kandy i osgoi gorchfygiad drwy gyfuniad o dactegau ymosod-a-ffoi a diplomyddiaeth.

Yn sgil sefydlu Colombo, yr orsaf fasnach Ewropeaidd gyntaf ar Sri Lanca, ym 1505, aeth y Portiwgaliaid ati i oresgyn yr arfodiroedd a chodi caerau a gorsafoedd masnach o amgylch yr ynys. Wedi i'r Portiwgaliaid yn raddol ddarostwng y teyrnasoedd brodorol eraill yn yr 16g, ymgynghreiriodd Kandy â phwerau eraill i wrthsefyll tra-arglwyddiaeth Portiwgal. Yn niwedd yr 16g, dechreuodd Kandy gydweithio â Jaffna, teyrnas Damilaidd yng ngogledd yr ynys, yn filwrol ac yn wleidyddol yn erbyn y Portiwgaliaid. Wedi i Jaffna gwympo ym 1619, trodd Kandy ei sylw at drefedigaethwyr o'r Iseldiroedd, un arall o bwerau ymerodrol Ewrop, Erfynodd y Brenin Rajasingha II (t. 1629–87) ar gymorth i fwrw'r Portiwgaliaid o'r ynys, ac ym 1638 cytunodd Cwmni Iseldiraidd India'r Dwyrain (VOC) ar yr amod eu bod yn cael monopoli ar fasnachu prif nwyddau Sri Lanca, gan gynnwys y cnydau sinamon. Cwympodd Colombo i'r Iseldirwyr ym 1656, ac yno y byddai'r VOC yn brif bwer tramor yr ardal hyd at 1796. Fodd bynnag, trodd Rajasingha II a'i olynwyr yn erbyn yr Iseldirwyr yn eu tro wrth i'r Ewropeaid ymelwa ar ddiwydiannau brodorol y Sinhaliaid, a cheisiodd brenhinoedd Kandy ymgynghreirio â'r prif bwer arall yn yr ardal, yr Ymerodraeth Brydeinig.

Strwythur ffiwdal oedd i'r deyrnas, gyda phenaduriaid lleol yn rheoli trwy gyfraith y brenin. Wrth i fân-deyrnasoedd eraill yr ynys ddiflannu, trodd brenhinoedd Kandy at deuluoedd pendefigaidd yn neheubarth India am briodasau, gan gynnwys brenhinllin Madurai Nayak. Ym 1739, esgynnodd brawd y frenhines i'r orsedd, gan felly sefydlu brenhinllin Nayakkar a fyddai'n teyrnasu hyd at ddiwedd Kandy.

Erbyn diwedd y 18g, enillai Cwmni Prydeinig India'r Dwyrain y blaen ar y VOC yng Nghefnfor India. Daeth trefedigaethau'r Iseldiroedd i feddiant yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1796 yn ystod y Rhyfeloedd Napoleonaidd, a sefydlwyd Seilón yn drefedigaeth y Goron ym 1802. O safbwynt y Prydeinwyr, rhwystr i'w rhwydweithiau masnach a chyfathrebu ar draws yr ynys oedd parhâd annibyniaeth Kandy, ac felly cynlluniwyd i ddarostwng y deyrnas. Methiant oedd yr ymgyrch gyntaf, ym 1803, i orchfygu Kandy, ond trodd y penaduriaid lleol yn erbyn brenhinllin Nayakkar, ac aethant ati i ymgynghreirio â Phrydain yn erbyn y Brenin Sri Vikrama Rajasinha (t. 1798–1815).[1] Arwyddwyd Cytundeb Kandy ym 1815 rhwng Prydain a'r penaduriaid i gyfeddiannu olion y deyrnas yn rhan o Seilón, ac felly dan brotectoriaeth Prydain, a chafodd y brenin ei ddymchwel. Cydnabuwyd hawliau a chyfreithiau traddodiadol y penaduriaid gan y cytundeb, ond daethant yn fuan i edifarhau ildio'u hannibyniaeth, ac ym 1817 cafwyd Gwrthryfel Uva. Cafodd yr hwnnw ei wastrodi gan y Prydeinwyr ac ym 1818, a chyhoeddodd diwedd ar nifer o hawliau'r penaduriaid.[2]

Sefydlu'r deyrnas[golygu | golygu cod]

Brenhinoedd o Dŷ Siri Sanga Bo

Senasammata Vikramabahu (1469–1511)
Jayavira Bandara (1511–51)
Karalliyadde Bandara (1551–81)
Kusumasana Devi (1581)
Rajasinha I (1581–91)

Senasammata Vikramabahu (t. 1469–1511) oedd arweinydd cyntaf Kandy i ddwyn y teitl brenin, wedi iddo wrthryfela yn erbyn Parakramabahu VI a'i fab Jayabahu II, brenhinoedd Kotte. Hawliodd Vikramabahu annibyniaeth ei diriogaeth, gyda'r brifddinas yn Senkadagalapura, a gellir olrhain Teyrnas Kandy felly yn ôl i 1469, er na chydnabuwyd hynny gan Deyrnas Kotte. I bob pwrpas, tywysogaeth neu is-deyrnas yn ddarostyngedig i Kotte oedd Kandy am y can mlynedd nesaf, er yr oedd ei daearyddiaeth yn rhoi iddi ymreolaeth sylweddol.

Map o deyrnasoedd Sri Lanca yn yr 16g, gan ddangos datblygiad Teyrnas Sitawaka yn Deyrnas Kandy: Sitawaka a'i thiriogaethau a gyfeddiannwyd (pinc a gwyn), Teyrnas Jaffna (efydd), Teyrnas Kotte (gwyrdd).

Amcangyfrifir yr oedd poblogaeth Sri Lanca ym 1505, pryd gyrhaeddodd fforwyr o Bortiwgal yr ynys am y tro cyntaf, yn 600,000, gan gynnwys 150,000 yn Nheyrnas Jaffna yn y gogledd, 400,000 yn nheyrnasoedd Kotte a Sitawaka yn y gorllewin a'r de, a'r gweddill mewn penaduriaethau'r vinniyar yn y gogledd a'r dwyrain, ac yn Kandy yn y canolbarth.[3] Ym 1521 gwrthryfeloedd meibion Brenin Kotte yn ei erbyn, yr hyn a elwir anrhaith Vijayabahu, a rhannwyd Kotte yn dair teyrnas. Dirywiodd Kotte ymhellach yn wyneb goresgyniadau'r Portiwgaliaid, a ffoes rhai o'r uchelwyr i'r canolbarth mynyddig, ac yno bwriadasant sefydlu olynydd pwerus i Deyrnas Kotte. Chwyddodd y boblogaeth yn y mynyddoedd gyda dilynwyr yr uchelwyr a ffoaduriaid o'r brwydro yn yr iseldiroedd, gan felly atgyfnerthu grym Kandy. Sitawaka, un o deyrnasoedd olynol Kotte, oedd yn hawlio tiriogaeth Kandy, ac yn raddol bu'n rhaid i frenhinoedd Sitawaka gydnabod taw Kandy oedd ar y blaen. Brenin olaf Sitawaka oedd Rajasinha I, a eisteddai ar orsedd Kandy hefyd wedi iddo fwrw Karalliyadde Bandaraallan o'r ucheldiroedd oddeutu 1580; yn ffurfiol, cyfeddiannwyd Kandy i Sitawaka ym 1582. Ffoes Karalliyadde Bandara i loches y Portiwgaliaid, ac ym 1591 lansiwyd cyrch llwyddiannus i ddymchwel Rajasinha a dychwelyd Kandy i Dom Filipe, etifedd yr hen frenin. Bu farw Filipe mewn amgylchiadau ansicr, o bosib wedi ei lofruddio, a datganodd un o arweinwyr y cyrch, Konnappu Bandara, ei hunan yn Frenin Vimaladharmasuriya, gan sefydlu brenhinllin newydd, Tŷ Dinajara. Wedi marwolaeth Rajasinha I ym 1593, ymchwalodd Teyrnas Kotte, a chipiwyd y rhan fwyaf o'i thiriogaeth gan y Portiwgaliaid.[4]

Brenhinoedd o Dŷ Dinajara

Vimaladharmasuriya I (1591–1604)
Senarat (1604–35)
Rajasinha II (1635–87)
Vimaladharmasuriya II (1687–1707)
Vira Narendra Sinha (1707–39)

Gelwir Vimaladharmasuriya I yn aml yn ail sefydlydd Kandy, am iddo orchfygu'r Portiwgaliaid mewn dwy frwydr bwysig (Danture ym 1594 a Balana ym 1602) a sicrhau goruchafiaeth ei deyrnas dros y rhan fwyaf o'r ynys. Yn sgil cwymp Teyrnas Sitawaka ym 1594 a Theyrnas Kotte ym 1597, Kandy oedd y deyrnas Sinhalaidd annibynnol olaf yn Sri Lanca, ac wedi cwymp Jaffne ym 1619, Kandy oedd yr unig deyrnas frodorol a barhaodd i wrthsefyll trefedigaethrwydd yr Ewropeaid.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Kandy (historical kingdom, Sri Lanka). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Mehefin 2023.
  2. (Saesneg) Kandyan Convention. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Mehefin 2023.
  3. Alicia Schrikker, Dutch and British Colonial Intervention in Sri Lanka, 1780–1815: Expansion and Reform (Leiden: Brill, 2007), t. 18.
  4. (Saesneg) Sri Lanka: History. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Mehefin 2023.