Terry James
Terry James | |
---|---|
Ganwyd | 1933 Cydweli |
Bu farw | 22 Hydref 2016 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, arweinydd |
Cyfansoddwr ac arweinydd cerddorfaol o Gymru oedd Dr Thomas Terry James (1933 – 22 Hydref 2016).[1][2]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Roedd Terry James yn enedigol o Gydweli ac aeth i Brifysgol Rhydychen lle enillodd ei radd a doethuriaeth. Wedi graddio bu'n byw ac astudio am gyfnodau yn Llundain a Rhufain ond treuliodd ran helaethaf ei fywyd yn Unol Daleithiau America.[3] Bu'n byw yng Ngwesty'r Savoy yn Llundain am bron i bymtheg mlynedd yn ogystal â chyfnodau yn Los Angeles.[2]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn 1973, cyfansoddodd ac arweiniodd y gerddoriaeth ar gyfer record sain o'r llyfr Jonathan Livingston Seagull, gyda Richard Harris yn adrodd y stori, a daeth yn gyfaill iddo wedi hyn.[4] Gwerthodd y record dros filiwn o gopiau gan dderbyn record aur a gwobr Grammy. Agorodd hyn y drws iddo weithio fel arweinydd cerddorol yn Hollywood ac ar Broadway. Cydweithiodd gyda rai o ser mwyaf Hollywod yn cynnwys Michael Douglas, Jodie Foster a Kris Kristofferson. Cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer y ffilmiau Echoes of Summer, The Dark Sun, Freedom Road, a The Minstrel, ymysg eraill.
Roedd yn gyfarwyddwr cerdd ac arweinydd ar gyfer cynhyrchiad Broadway o Camelot, a roedd wedi arwain Cerddorfa Siambr Prag.
Yn 1988 derbyniodd gradd er anhrydedd gan Brifysgol Scranton, U.D.A.[5]
Ymddeoliad
[golygu | golygu cod]Wedi ymddeol daeth yn ol i Gymru i fyw yng Nghaerfyrddin gan barhau i fod yn weithgar ym myd cerddoriaeth. Bu'n darlithio'n wythnosol ar werthfawrogiad cerddoriaeth yn Llyfrgell Caerfyrddin, roedd yn llywydd Celfyddydau Caerfyrddin a bu'n trefnu cyngherddau'n flynyddol er mwyn codi arian i elusennau.[3] Daeth hefyd yn wyneb cyfarwydd ar raglenni teledu Cymraeg.[6] Bu farw Ysbyty Gyffredinol Glangwili yn 83 mlwydd oed. Cynhaliwyd angladd breifat yn ôl ei ddymuniad a chynhaliwyd gwasanaeth coffa cyhoeddus iddo yn Eglwys San Pedr, Caerfyrddin ar ddydd Sadwrn 5 Tachwedd.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 James Terry Musician Cerddor : Obituary. bmdsonline.co.uk (29 Hydref 2016). Adalwyd ar 30 Hydref 2016.
- ↑ 2.0 2.1 Carmarthenshire born Hollywood composer Dr Terry James dies , South Wales Evening Post, 25 Hydref 2016.
- ↑ 3.0 3.1 Record aur yn drysor. BBC Cymru (Chwefror 2008). Adalwyd ar 24 Hydref 2016.
- ↑ (Saesneg) Richard Harris – Jonathan Livingston Seagull. discogs.com.
- ↑ (Saesneg) DR. T. TERRY JAMES CLASS OF 1988. Prifysgol Scranton (29 Mai 1988). Adalwyd ar 24 Hydref 2016.
- ↑ Teyrnged i'r cyfansoddwr, y diweddar Dr. Terry James.. Heno, S4C (24 Hydref 2016).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Terry James ar wefan Internet Movie Database