Michael Douglas
Oddi ar Wicipedia
| Michael Douglas | |
|---|---|
Michael Douglas |
|
| Ganwyd | 25 Medi, 1944 New Brunswick, New Jersey, |
| Yn enwog am | Wall Street, A Chorus Line, Fatal Attraction, Basic Instinct |
| Galwedigaeth | Actor, cynhyrchydd |
Actor a chynhyrchydd Americanaidd yw Michael Kirk Douglas (ganwyd 25 Medi, 1944). Cafodd Douglas ei brofiad cyntaf o actio yn chwarae rhan partner coleg Karl Malden, Insp. Steve Keller, yn nrama droseddol y 1970au The Streets of San Francisco, rhwng 1972 a 1976. Mae Douglas hefyd wedi ennill Gwobr Emmy, Gwobr Golden Globe a dwy o Wobrau'r Academi - y cyntaf am gynhyrchu'r Ffilm Orau ym 1975 sef One Flew Over the Cuckoo's Nest a'r ail fel yr Actor Gorau am ei rôl yn y ffilm Wall Street.
Mab yr actor Kirk Douglas yw ef. Priododd yr actores Catherine Zeta-Jones ar y 18 Tachwedd 2000.
Ffilmiau [golygu]
- Cast a Giant Shadow (1966)
- Napoleon and Samantha (1972)
- Coma (1978)
- The China Syndrome (1979)
- The Star Chamber (1983)
- Romancing the Stone(1984)
- A Chorus Line (1985)
- Wall Street (1987)
- Fatal Attraction (1989)
- Basic Instinct (1992)
- Disclosure (1994)
Teledu [golygu]
- The Streets of San Francisco (gyda Karl Malden) (1972-77)