Talbot

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Paentiad o gi Talbot ar nenfwd Neuadd Haddon yn Bakewell, Swydd Derby, i nodi priodas Syr Henry Vernon i Ann Talbot, merch Iarll Amwythig, yn yr 16eg ganrif.
Arwydd tafarn yn Hartlebury, Swydd Gaerwrangon. Hyd heddiw ceir cannoedd o dafarnau a gwestai a enwir ar ôl y Talbot.

Helgi oedd y Talbot[1] oedd yn berchen ar ffroen dda ond braidd yn araf. Roedd gan amlaf yn wyn ei liw, ond hefyd yn frycheuog neu'n ddugoch.[2]

Roedd y Talbot yn tarddu o Helgi St. Hubert. Mae'n bosib datblygodd y Talbot o ganlyniad i groesfridio rhwng Helgwn St. Hubert brychwyn neu ddugoch a Helgwn Ffrengig. Mae'n debyg cafodd y Talbot ei fridio'n gyntaf yn yr 8fed ganrif yn Ffrainc, a'i ddod i Loegr ym 1066 gan Wilym Goncwerwr i hela ceirw. Yn hwyrach, defnyddiwyd y Talbot i hela llwynogod. Yn yr Oesoedd Canol cafodd y Talbot ei fridio i ddilyn olion ar y maes brwydr, gan godi trywydd milwyr y gelyn oedd yn ffoi. Defnyddiwyd hefyd i ddilyn lladron gwartheg a charcharorion ar ffo.[2] Bu teithwyr hefyd yn defnyddio'r Talbot i cadw lladron pen ffordd draw o goetsis.[3]

Diflanodd y Talbot yn yr 16eg ganrif. Roedd ganddo ben mawr gyda chlustiau hirion a llipa, a gwelir y nodweddion hyn hyd heddiw yn y bridiau a ddeilliodd o'r Talbot: y Ci Baset, y Corhelgi, y Ci Ysgyfarnog, y Ci Hela Racŵn a'r Gwaetgi.[2]

Ymddangoser y Talbot fel creadur herodrol ar arfbeisiau a baneri nifer o bobl o'r cyfenw Talbot, gan gynnwys yn hanesyddol Iarll Amwythig. Ceir cannoedd o dafarnau yng Ngwledydd Prydain a enwir ar ôl y Talbot, o bosib wrth gofio arfer y ci o redeg ger neu'r tu ôl i goetsis wrth iddynt deithio o un dafarn i'r llall.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Geiriadur yr Academi, [Talbot].
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Ria Hörter. Vanished Dog Breeds. Adalwyd ar 17 Medi 2014.
  3. (Saesneg) A Haunted History: The Talbot. BBC. Adalwyd ar 17 Medi 2014.