Tacsidermi
Oddi ar Wicipedia
Blaidd wedi'i fowntio
Mowntio neu ailgynhyrchu anifeiliaid meirw er mwyn eu harddangos yw tacsidermi. Rhoddir croen yr anifail dros fodel a defnyddir llygaid gwydr. Caiff y cynnyrch gorffenedig ei arddangos fel troffi hela, enghraifft wyddonol, neu fath arall o gelficyn.
Mae tacsidermyddion enwog yn cynnwys y teulu Hutchings o Aberystwyth.[1][2]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Morris, Pat a Freeman, Michael. Hutchings the Aberystwyth taxidermists 1860 - 1942 (Ascot, Berkshire, cyhoeddwyd gan yr awduron, 2007).
- ↑ (Saesneg) Victorian Antique Taxidermy by James Hutchings of Aberystwyth. Historical Victorian Taxidermy. Adalwyd ar 10 Medi 2012.