Synhwyrydd Geiger-Müller

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Geiger.png

Dyfais i ganfod a mesur pelydredd (neu "belydriad") ydy Synhwyrydd Geiger-Müller (neu Tiwb Geiger-Müller). Dyma'r dull mwyaf cyfarwydd o ganfod pelydriad a'r math mwya cyffredin mewn labordy. Cafodd ei ddyfeisio gan Hans Geiger a Walther Müller yn yr Almaen yn 1928. Pan aiff pelydryn o alffa, beta neu gama i fewn i'r synhwyrydd mae'n ïoneiddio'r nwy sydd yn y tiwb ac yn achosi dadwefriad trydanol ar ffurf gwreichionen fechan sy'n gwneud sŵn "clic". Y nwyon arferol yw: heliwm, neon neu argon.

Caiff ei ddefnyddio'n achlysurol i ganfod rhifau ar hap. Dull arall o ganfod pelydriad ydy drwy blatiau neu ffilm ffotograffig; darganfuwyd y dull hwn pan adawodd Henri Becquerel ychydig o wraniwm ar blatiau ffotograffig. Pan ddychwelodd atynt roeddent wedi troi'n niwlog.

Caiff ymbelydredd ei fesur mewn Becquerelau (Bq); hynny yw un niwclews yn dadfeilio mewn eiliad. Yr agosaf ydy'r tiwb at ffynhonnell yr ymbelydredd y cryfaf mae'n ei synhwyro. Oherwydd hyn, mae'n declyn handi i ganfod lleoliad yr ymbelydredd. Ceir peth pelydriad cefndirol ym mhob rhan o'r blaned, gyda rhai creigiau megis gwenithfaen yn rhyddhau cryn dipyn. Mae'n hynod bwysig, felly, nad yw hyn yn amharu ar y darllediad. I ddarganfod y gyfradd rifo, rhaid mesur y rhifiad cefndirol yn gyntaf. Yna, dylid tynnu'r rhif hwn o'r rhif a geir pan fo'r ffynhonnell yn bresenol. Gwneir hyn yn aml i ddarganfod hanner oes elfen.