Swndaneg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Iaith yn perthyn i deulu'r ieithoedd Awstronesaidd ac is-deulu'r ieithoedd Malayo-Polynesaidd yw Swndaneg (Basa Sunda). Fe'i siaredir yn bennaf yng ngorllewin ynys Jawa yn Indonesia, yn yr ardal a adwaenid yn hanesyddol fel "Sunda". Mae tua 27 miliwn o siaradwyr i gyd. Mae'n perthyn yn agos i Jafaneg ac Indoneseg.

Ceir pedair prif dafodiaith: Banten, Bogor, Priangan a Cirebon. Ystyrir Priangan fel y ffurf fwyaf safonol. Ceir gwahanol ffurfiau ar yr iaith yn dibynnu ar statws cymdeithas cymharol y siaradwr a'r bobl y mae'n siarad a hwy.