Sutra

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Sutra (ynganiad: 'sŵtra') yw'r term Sansgrit am wireb neu ddywediad athronyddol sydd wedi cael ei drosglwyddo ar lafar neu mewn llyfr. Ystyr y gair sutra yw 'llinyn' ac mae'n dal perthynas ieithyddol a'r gair Lladin suere ('gwnïo').

Yn Hindŵaeth mae sutrau yn cael eu priodoli i athrawon mawr y gorffennol fel Shankara neu rai o ddoethion traddodiad y Veda. Mae'r gair yn medru golygu casgliad o ddywediadau athronyddol yn ogystal.

Ym Mwdhaeth mae sutra yn enw ar sawl cyfres o ddywediadau gan y Bwdha neu ei ddisgyblion.

Dharma wheel.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Fwdhaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Om.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Hindŵaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Books-aj.svg aj ashton 01.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.