Stryt Siarl, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Stryt Siarl
Mathstryd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadWrecsam Edit this on Wikidata
SirParc Caia Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.04549°N 2.990436°W Edit this on Wikidata
Map

Stryd fasnachol yng nghanol dinas Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Stryt Siarl (“Charles Street”).

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae Stryt Siarl yn rhedeg o'r gyffordd gyda'r Stryt Fawr, Stryt Caer a Stryt Yorke, yn gyfagos i'r gwesty Wynnstay Arms, i'r gyffordd gyda Stryt y Farchnad a Chilgant San Siôr (“St George's Crescent”), ar gyrion canol y ddinas.

Hanes[golygu | golygu cod]

Ar ddiwedd Stryt Siarl safodd y Farchnad Anifeiliaid (“Beast Market”), a oedd yn estyn hyd at yr ardal lle mae Tesco a'i maes parcio yn sefyll heddiw.

Nid yw tarddiad enw Stryt Siarl yn hysbys ond roedd yn cael ei hadnabod fel Stryt y Farchnad Anifeiliaid (“Beast Market Street”) tan ddiwedd y 18fed ganrif. Heddiw, mae'r Beast Market yn cael ei adnabod fel Cilgant San Siôr. [1]

Yn yr 17eg a’r 18fed ganrif, roedd y stryd yn arwain o'r marchnadoedd cynnyrch ar y Stryt Fawr, Stryt yr Abad a Stryt yr Hôb i'r farchnad anifeiliad, ar gyrion y dref. [2]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Stryd i gerddwyr yw Stryt Siarl. Mae hi'n cael ei hystyried fel un o’r strydoedd manwerthu mwyaf deniadol yn y dref, llawn o fusnesau bach preifat, gan gynnwys siopau a thafarnau. [2]

Mae'r gyffordd gyda'r Stryt Fawr, Stryt Caer a Stryt Yorke yn cael ei dominyddu gan adeiladau eiconig ar gyfer y ddinas fel y gwesty Wynnstay Arms a'r hen dafarndy'r Feathers.

Mae'r stryd yn wedi cadw nifer o adeiladau hanesyddol, gan gynnwys adeiladau rhestredig Gradd II. Mae'r rhifau 20 i 23 yn ffurfio rhes o siopau ar raddfa fechan gafodd ei adeiladu yn yr 19eg ganrif gyda llety lan llofft, yn ôl pob tebyg cafodd ei ailfodelu o adeilad ffrâm bren cynharach. [3]

Mae'r hen dafarndy, "the Hat Inn", adeilad sy'n dyddio i'r 17eg ganrif, yn dal i oroesi fel rhan o optegydd. Drws nesa, mae tafarndy hanesyddol arall, yr hen Elephant & Castle, yn dal i sefyll ac yn cael ei ddefnyddio o hyd fel tafarn. [4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Wrexham Museums - Beginner's Guide to the History of Wrexham". Facebook. Cyrchwyd 4 Hydref 2022.
  2. 2.0 2.1 "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 4 Hydref 2022.
  3. "No 21 Charles Street, Clwyd, Caia Park, Wrexham". Briish Listed Buildings. Cyrchwyd 4 Hydref 2022.
  4. "New Wrexham Fairs - Wrexham History". Wrexham History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-12-01. Cyrchwyd 4 Hydref 2022.


Oriel[golygu | golygu cod]