Stryd Athlunkard, Luimneach, Iwerddon.
Mae Stryd Athlunkard ( Gwyddeleg: Sráid Áth Longphuirt </link> ) yn stryd ar Ynys y Brenin, yn ninas Limerick, Iwerddon . Mae'r enw Gwyddeleg Áth Longphuirt, sy'n golygu "rhyd y longphort," yn cyfeirio at longphort Llychlynnaidd sef gwersyll llongau amddiffynedig o'r 9fed ganrif a leolwyd unwaith yn y rhyd honno dros yr Afon Shannon (Abhaine na Sionainne yng Ngwyddeleg). [1] Mae Stryd Athlunkard yn ymestyn o Abhainne na Mainistreach/Afon yr Abaty, ar Bont O'Dwyer i'r groesffordd â Mary Street a Nicholas Street . Sefydlwyd y stryd ar 26 Ebrill 1824. [2]
Mae'r enw Arthlunkard yn parhau dros Bont O'Dwyer gydag Rhodfa Athlunkard yn An Corbhaille/Corbally, a Phont Athlunkard hefyd yn an Corbhaille, ar draws Afon Shannon o dreflan Athlunkard, Swydd Clare/Contae an Chláir .
Mannau o ddiddordeb[golygu | golygu cod]
- Clwb Cychod Athlunkard, sefydlwyd 1898. [3]
- Tŷ Bourke, a adeiladwyd yn 1690.
- Pont O'Dwyer, a adeiladwyd yn 1931. [4]
- Eglwys Gatholig Rufeinig y Santes Fair, a agorodd yn 1932 [5] ar safle capel hŷn o'r un enw. Dyma eglwys blwyf Plwyf y Santes Fair, a sefydlwyd yn Synod Ráth Breasail yn 1111 OC. [6]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Kelly, Eamonn P.; O’Donovan, Edmond (Winter 1998). "A Viking longphort near Athlunkard, Co. Clare". Archaeology Ireland 12 (4): 13–16.
- ↑ Rabbitts, Nick (18 April 2024). "Anniversary of Limerick city street to be marked with series of events". Limerick Leader. Cyrchwyd 18 April 2024.
- ↑ History of Athlunkard Boat Club
- ↑ Buildings of Ireland: O'Dwyer's Bridge
- ↑ St. Mary’s Church, RC
- ↑ "St. Mary's Parish". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-30. Cyrchwyd 2013-09-24.