Staraya Ladoga
Oddi ar Wicipedia
Pentref yng ngogledd-orllewin Rwsia yn Oblast Leningrad ar aber Afon Volkhov a Llyn Ladoga yw Staraya Ladoga (Rwsieg Ста́рая Ла́дога). Er ei fod yn pentref heddiw, un o drefi hynaf a phwysicaf Rwsia'r Oesoedd Canol ydoedd, ar y llwybr masnach o Lychlyn i Gaergystennin. Fe'i hadwaenid i'r Llychlynwyr fel Aldeigjuborg.