Llyn Ladoga

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ladoga
La2-demis-ladoga.png
Lleoliad Gogledd-orllewin Rwsia
Cyfesurynnau 61°00′Gog 31°00′Dwy
Tarddiadau Cynradd Svir, Volkhov, Vuoksi
All-lifoedd Cynradd Neva
Dalgylch 276,000 km²
Gwledydd Basn Baner Rwsia Rwsia
Baner Y Ffindir Y Ffindir
Hyd Mwyaf 219 km
Lled Mwyaf 138 km
Arwynebedd 17,700 km²
Dyfnder Cyfartalog 51 m
Dyfnder Mwyaf 230 m
Cyfaint Dŵr 908 km³
Dyrchafiad Arwyneb 4 m
Ynysoedd tua 660 (yn cynnwys Valaam)


Llyn dŵr croyw mwyaf Ewrop yw Llyn Ladoga (Rwsieg Ла́дожское о́зеро / Ladozhskoe ozero), wedi'i leoli yng ngogledd-orllewin Rwsia yn agos at y Môr Baltig yng Ngweriniaeth Karelia ac Oblast Leningrad.

Daearyddiaeth[golygu]

Mae'r llyn yn gorchuddio arwynebedd o rhwng 17.7 (heb ynysoedd) ac 18.4 (gan gynnwys ynysoedd) mil km2. Ei hyd (o'r gogledd i'r dde) yw 219 km, a'i led cyfartal yw 83 km. Mae ef ar ei ddyfnaf yn y gogledd-orllewin, lle ceir y man dyfnaf, 230m. Ei ddyfnder cyfartal yw 52m. Mae'n llifo i mewn i Gwlff y Ffindir ar hyd Afon Neva drwy St Petersburg. Y Neva yw'r unig afon i lifo allan ohono, ond mae'n dwyn ei ddŵr oddiwrth tua 3500 o isafonydd sy'n llifo i mewn iddo. Y prif isafonydd yw'r Svir, y Volkhov, y Vuoksi a'r Syas. Mae'r llyn yn cynnwys tua 660 o ynysoedd, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn y gogledd-orllewin, gan gynnwys yr Ynysoedd Valaam. Y prif drefi ar ei lannau yw Shlisselburg, Novaya Ladoga, Syasstroy, Pitkyaranta, Sortavala, Lakhdenpokhya a Priozersk.

Hanes[golygu]

Llyn Ladoga

Hyd y 13eg ganrif, enw'r llyn oedd Llyn Nevo. Ailenwyd ar ôl y dref fasnachol o'r un enw (Staraya Ladoga) ar ei lannau. Roedd y rhan ogledd-orllewinol o'r llyn yn rhan o'r Ffindir tan 1940.

Gweler hefyd[golygu]