Oblast Leningrad

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Oblast Leningrad.
Lleoliad Oblast Leningrad yn Rwsia.

Un o oblastau Rwsia yw Oblast Leningrad (Rwseg: Ленингра́дская о́бласть, Leningradskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Gatchina. Poblogaeth: 1,716,868 (Cyfrifiad 2010).

Enwir yr oblast ar ôl Leningrad (Sant Petersburg), ond erbyn heddiw mae St Petersburg yn ddinas fetropolitaidd ffederal a weinyddir ar wahân. Fe'i sefydlwyd ar 1 Awst 1927.

Lleolir Oblast Leningrad yn ardal weinyddol y Dosbarth Ffederal Gogledd-orllewinol. Mae tiriogaeth yr oblast yn cynnwys darn o ranbarth hanesyddol Ingria. Mae'r oblast yn ffinio gyda'r Ffindir i't gogledd-orllewin a gyda Estonia i'r gorllewin; o fewn Rwsia mae'n rhannu ffin gyda Gweriniaeth Karelia i'r gogledd-ddwyrain, Oblast Vologda i'r dwyrain, Oblast Novgorod i'r de, Oblast Pskov i'r de-orllewin, a dinas ffederal Sant Petersburg i'r gorllewin.

Dolenni allanol[golygu]


Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.