Stadiwm SDM Glass
Math | stadiwm pêl-droed |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2013 |
Lleoliad | Bryntirion |
Stadiwm SDM Glass (blaenorol, Parc Bryntirion a Stadiwm KYMCO)[1] yw maes chwarae C.P.D. Penybont sy'n chwarae pêl-droed yn Uwch Gynghrair Cymru a system byramid Cynghrair Cymru.
Daeth y maes i feddiant clwb Penybont yn dilyn uno Bridgend FC gyda'i cymdogion a gwrthwynebwyr, Bryntirion Athletic yn 2013. Gydag hynny, cafwyd acses i £1,000,000 mewn cyllid a defnydd o faes Bryntirion ar gyfer y clwb newydd.[2]
Lleoliad[golygu | golygu cod]
Lleolir y maes ar gyrion stâd dai, neu maestref Bryntirion ym Mhenybont-ar-Ogwr. Y cyfeiriad yw: Parc Bryntirion, Llangewydd Road, Penybont, CF31 4JU.
Adnoddau a'r Maes[golygu | golygu cod]
Mae carfanau cymunedol, Academi a Thîm 1af y Clwb i gyd yn chwarae yn Stadiwm Parc Bryntirion SDM Glass sy’n darparu un o’r arwynebau 4G gorau yng Nghymru gyda sgôr uwchel FIFA 1*. Mae gan y stadiwm gapasiti o 1,500, gyda lle a chynlluniau i ehangu capasiti a chyfleusterau chwarae yn sylweddol.
Y nod yw cynnal pêl-droed Ewropeaidd i Ben-y-bont ar Ogwr, creu awyrgylch bywiog a chyffrous ar gyfer diwrnod gêm ac ymgysylltu'n llawn â'r gymuned leol i ddarparu cyfleoedd a mynediad i bob oed a gallu.
Nifer yr ymwelwyr y flwyddyn ar gyfartaledd: 30,000
The Venue[golygu | golygu cod]
Fel rhan o gyfleusterau’r clwb, mae gan y clwb safle ‘The Venue’, sy'n fan poblogaidd ar gyfer adloniant a lletygarwch gyda bariau lluosog a bwyty yn gweini brecwast a phrydau min nos.[3]
Ffans ffyddlon[golygu | golygu cod]
Gelwir ardal y ffans ffyddlon mwyaf swnllyd yn 'The Bont Bank'. Mae'r enw yn chwarae ar eiriau enw hen derras rhataf C.P.D. Dinas Caerdydd pan oeddynt yn chwarae ym Mharc Ninian, The Bob Bank.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "SDM Stadium". Gwefan Transfer Markt. Cyrchwyd 28 Mehefin 2023.
- ↑ "SDM Glass Stadium (Penybont FC)". Blog Gloucester Groundhopper. 8 Ebrill 2023.
- ↑ "The Venue". Gwefan Swyddogol CPD Penybont. Cyrchwyd 28 Mehefin 2023.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- Ground To Ground-Penybont FC-SDM Glass Stadium Flog Groundhopping gan AFC Finners (2023)
- Gwefan Swyddogol CPD Penybont