Sleepy Hollow, Efrog Newydd
Pentref yn nhref Mount Pleasant, Swydd Westchester, Efrog Newydd yw Sleepy Hollow. Lleorir ar lan dwyreiniol yr Afon Hudson, tua 30 milltir i'r gogledd o ganol Manhattan yn Ninas Efrog Newydd. I'r de o Sleepy Hollow mae pentref Tarrytown.
Ers diwedd y Chwyldro Americanaidd hyd ei gyfuniad, enw'r pentref oedd Beekmantown, cyfunwyd yn 1874 fel "North Tarrytown", a newidioedd ei enw'n swyddogol i "Sleepy Hollow" ym mis Mawrth 1997. Roedd oblogaeth o 9,212 yn ystod cyfrifiad 2000, ac amcangyfrwyd poblogaeth o 10,124 yn 2006.[1]
Sleepy Hollow yw leoliad stori ysbryd enwog Washington Irving, The Legend of Sleepy Hollow, a lleoliad Sleepy Hollow Cemetery, lle claddwyd Irving ynghyd â Andrew Carnegie, Walter P. Chrysler, Brooke Astor, Elizabeth Arden, Thomas J. Watson o IBM nifer o enwogion eraill. Lleolir Philipsburg Manor a Hen Eglwys Iseldiraidd Sleepy Hollow yn y pentref yn ogystal.
Roedd y bentref yn leoliad ffatri gysodi Chevrolet, General Motors hyd 1996. Fe gafodd cau'r ffatri gryn effaith ar economi'r ardal. Mae'r safle heddiw'n cael ei ail-ddatblygu ar gyfer adeiladu cartrefi a siopau adwerthu,[2] er fod pentref Tarrytown ger llaw wedi elyn dros bryderion ynglyn â thraffig, parcio ac effaith amgylcheddol y cynllun.[3]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ U.S. Census Bureau, Population Finder: Sleepy Hollow village, New York
- ↑ Carin Rubinstein, IN BUSINESS: A Hurdle Cleared on Riverfront Site, New York Times (6 Hydref 2002)
- ↑ Mariel Lynn DiSibio, Two Villages, One Project, Another Lawsuit, New York Times (28 Hydref 2007)
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Sleepy Hollow
- (Saesneg) Hanes fer Sleepy Hollow
- (Saesneg) Sleepy Hollow Cemetery
- (Saesneg) Old Dutch Burying Ground, Sleepy Hollow
- (Saesneg) The Hudson Independent (Papur Lleol)