Afon Hudson

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cwch hwylio ar Afon Hudson gyda Manhattan yn y cefndir

Afon sy'n llifo o'r gogledd i 'r de yn nwyrain talaith Efrog Newydd yw Afon Hudson. Mae'n tarddu o Lyn Tear of the Clouds ar lethrau Mynydd Marcy yng nghadwyn yr Adirondack, yn llifo heibio dinas Albany, ac yn ffurfio'r goror rhwng Dinas Efrog Newydd a thalaith New Jersey ger ei haber cyn arllwyso i Fae Uchaf Efrog Newydd. Enwyd ar ôl y fforiwr Seisnig Henry Hudson.