Sisian
Oddi ar Wicipedia
Dinas yw Sisian (Armeneg: Սիսիան , hefyd Sisavan) yn Armenia, yn nhalaith Syunik (hen dalaith Zangezur). Fe'i lleolir ar uchder o 1,600 m (5,249 troedfedd) yn ne-ddwyrain Armenia ar lannau Afon Vorotan, 6 km i'r de o'r briffordd sy'n cysylltu Yerevan a Meghri, 217 km o Yerevan a 115 km o Kapan. Poblogaeth: 16,823.
Yn y gorffennol roedd Sisian yn cael ei hadnabod wrth ei henw Twrceg, Karakilisa, sy'n golygu "Eglwys Ddu" (kara 'du' + kilisa 'eglwys'). Gelwir y ddinas yn Qarakilsə gan bobl Azerbaijan, dros y ffin, o hyd.
Enwogion[golygu]
- Nicholas Adontz (1871-1942), hanesydd Armeniaidd
- Israel Ori (1658-1711), diplomydd Armeniaidd
Gweler hefyd[golygu]
- Zorats Karer, safle archaeolegol ger Sisian sy'n destun sawl damcaniaeth ddadleuol