Zorats Karer

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Safle archaeolegol yn Armenia yw Zorats Karer (hefyd Zorac' K'arer, Zorac Qarer, Zorakarer, Zorakar, Armeneg: Զորաց Քարեր), a leolir ger dinas Sisian yn ucheldiroedd talaith Syunik, yn ne-ddwyrain Armenia.

Disgrifiad[golygu]

Un o'r meini sydd â thwll ynddo, yn y mur o gwmpas y safle.

Lleolir Zorats Karer ar ddarn o dir uchel creigiog yn y mynyddoedd ger Sistian. Ceir 223 beddrodau carreg mawr yn yr ardal. Archwilwyd y safle gan dîm o archaeolegwyr o'r Institut für Vorderasiatische Archäologie, Prifysgol München a chyhoeddwyd eu darganfyddiadau yn 2000. Daethont i'r casgliad y bu Zorats Karer "yn necropolis o ganol cyfnod Oes yr Efydd hyd Oes yr Haearn." Ychwanegant y gallai fod "yn noddfa ar adegau rhyfel", efallai yn y cyfnod Helenistaidd - Rhufeinig (tua 300 CC - 300 OC). Codwyd mur o gerrig a phridd cadarn oddi amgylch y safle gyda cherrig wedi'u gosod i mewn iddo i'w atgyfnerthu: erbyn heddiw dim ond y cerrig hyn sy'n weddill o'r mur hwnnw. Ceir tyllau crwn mewn tua 80 o'r meini hynny.[1]

Yn ninas Sisian ceir amgueddfa fechan lle arddangosir gwrthrychau archaeolegol o'r safle, sy'n cynnwys cerfiadau-ar-garreg (petroglyphs) hynafol o ogofau yn y cylch, a nifer o wrthrychau a adawyd yn y beddrodau ar y safle.

Damcaniaethau ffug-archaeolegol[golygu]

Mae'r tyllau yn y meini wedi bod yn destun sawl damcaniaeth ddadleuol gan ymchwilwyr archaeoseryddol Rwsiaidd ac Armeniaidd sydd wedi awgrymu bod y safle yn cael ei defnyddio ar gyfer seryddiaeth, yn bennaf am fod pedwar o'r tyllau yn cyfeirio at y man lle mae'r haul yn codi ar gyhydedd yr haf tra bod pedwar arall yn pwyntio at y man lle mae'r haul yn machlud ar y diwrnod hwnnw. Fodd bynnag, mae'n debygol fod y tyllau hynny yn ddiweddarach na'r cerrig a godwyd.[2]

Mae'r ymchwilwyr hyn yn cyfeirio at Zorats Karer wrth yr enw Carahunge (hefyd Karahoonj a sillafiadau tebyg), ar ôl y pentref o'r un enw gerllaw. Yn ôl y seryddwr Armeniaidd Paris Herouni, roedd Zorats Karer "yn deml gydag arsyllfa seryddol mawr a phrifysgol", ac mae'n honni hefyd fod y safle yn dyddio yn ôl tua 7600-4500 o flynyddoedd. Fodd bynnag, dydy Herouni ddim yn archaeolegwr ac mae ei waith cyhoeddedig ar y pwnc yn cynnwys nifer o honiadau sy'n perthyn i ffug-archaeoleg yn hytrach nag archaeoleg wyddonol, gonfensiynol.[3] Serch hynny, mae'n bennaf trwy waith Herouni fod Zorats Karer - wrth yr enw Carahunge - yn adnabyddus y tu allan i Armenia.

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: