Sip

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sipiau plastig a neilon.

Dyfais boblogaidd ar gyfer clymu dau ddarn o ddefnydd at eu gilydd dros dro yw sip. Defnyddir mewn dillad, er enghraifft siacedi a jîns, bagiau, offer gwersylla, megis pebyll a sachau cysgu yn ogystal a nifer o eitemau eraill a ddefnyddiwn o ddydd i ddydd.

Arddangosodd Whitcomb L. Judson ei "glo cau" (Saesneg: clasp locker) yn Ffair y Byd Chicago, 1893. Cafodd y syniad ei ddatblygu gan y peiriannydd Swedaidd-Americanaidd Gideon Sundback a dderbynodd patent ym 1913. Cafodd dyfais debyg ei batentu ym 1912 yn Ewrop gan Catharina Kuhn-Moos. Defnyddiwyd sipiau ar ddillad dynion a menywod yn gyntaf ar ddiwedd y 1920au.[1]

Disgrifiad[golygu]

Mae dau ddarn o dâp defnydd, sy'n cael eu glynu at y dau ddarn o defnydd sydd i gael ei uno; ar hyd ymyl y tâp, mae degau neu gannoedd o ddannedd bychain plastig neu fetel. Mae'r dannedd rhain wedi cael eu siapio'n arbennig i ffitio gyda'u gilydd. Mae llithrydd, sy'n cael ei dynnu gyda'r llaw, yn symud o un ben y sip i'r llall, gan symud ar hyd y rhes o ddannedd. O fewn y llithrydd mae sianel mewn siâp Y, sy'n masgio'r ddau res o ddannedd at eu gilydd, neu yn eu gwahanu, yn dibynnu ar ba gyfeiriad mae'r llithiwr yn symud. Mae'r ffrithiant a'r dirgryniad a achosir gan y llithiwr yn symud yn erbyn y dannedd yn crau sain nodweddiadol, hwn mae'n debyg yw tarddiad y gair sip. Gall y gair hefyd fod wedi tarddu o'r cyflymder y gall y ddau ddarn o ddefnydd gael eu clymu at eu gilydd i gymharu a'r amser mae'n cymryd i cau rhes o fotymau neu gau criau.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) zipper. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Rhagfyr 2013.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: