Sidydd
Oddi ar Wicipedia
Mae'r Sidydd yn gylchfa yn y nefoedd ar hyd yr ecliptig, sef y llwybr ymddangosiadol y mae'r haul yn ei ddilyn yn ystod y flwyddyn. Rhennir y Sidydd yn ddeuddeng arwydd, sy'n cyfateb i un deg tri cytser. Y mae arwyddion y Sidydd yn fwy hysbys mewn cyd-destun sêr-ddewiniol na seryddol.
[golygu] Cytserau'r Sidydd
Y mae'r ecliptig yn cynnwys tri chytser ar ddeg, ond nid ydyw un ohonynt (Ophiuchus) yn ffurfio rhan o'r Sidydd traddodiadol. Cytserau'r Sidydd yw:
- yr Hwrdd
- y Tarw
- y Gefeilliaid
- y Cranc
- y Llew
- y Forwyn
- y Glorian
- y Sgorpion
- y Saethydd
- yr Afr
- y Cariwr Dŵr neu'r Dyfrwr
- Y Pysgod.
[golygu] Arwyddion y Sidydd
Rhennir y Sidydd yn ddeuddeg rhan (un i bob mis y flwyddyn), a rhoddir iddynt enw'r cytser agosaf. Y mae'r tabl yma yn dangos arwyddion y Sidydd gyda'r dyddiadau pan ydyw'r haul yn mynd drwyddynt.
| Cytser | Arwydd (Symbol) | Dyddiadau presenoldeb yr haul yn yr arwydd | Dyddiadau presenoldeb yr haul yn y cytser (yn 2000) |
| Yr Hwrdd | 21 Mawrth - 20 Ebrill | 20 Ebrill - 13 Mai | |
| Y Tarw | 21 Ebrill - 21 Mai | 14 Mai - 19 Mehefin | |
| Y Gefeilliaid | 22 Mai - 21 Mehefin | 20 Mehefin - 20 Gorffennaf | |
| Y Cranc | 22 Mehefin - 22 Gorffennaf | 21 Gorffennaf - 9 Awst | |
| Y Llew | 23 Gorffennaf - 22 Awst | 10 Awst - 15 Medi | |
| Y Forwyn | 23 Awst - 22 Medi | 16 Medi - 30 Hydref | |
| Y Glorian | 23 Medi - 22 Hydref | 31 Hydref - 22 Tachwedd | |
| Y Sgorpion | 23 Hydref - 22 Tachwedd | 23 Tachwedd - 29 Tachwedd | |
| Ophiuchus |
|
30 Tachwedd - 17 Rhagfyr | |
| Y Saethydd | 23 Tachwedd - 21 Rhagfyr | 18 Rhagfyr - 18 Ionawr | |
| Yr Afr | 22 Rhagfyr - 20 Ionawr | 19 Ionawr - 15 Chwefror | |
| Y Cariwr Dŵr | 21 Ionawr - 18 Chwefror | 16 Chwefror - 11 Mawrth | |
| Y Pysgod | 19 Chwefror - 20 Mawrth | 12 Mawrth - 18 Ebrill | |