Shotolau

Oddi ar Wicipedia
Shotolau
Genre Adloniant
Cyflwynwyd gan Emyr Davies
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 30 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Uned Hel Straeon
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 576i (4:3 SDTV)
Rhediad cyntaf yn 1991 - 1996

Rhaglen deledu gystadleuol ar S4C oedd Shotolau. Byddai dau dîm o saethwyr yn cystadlu drwy saethu colomennod clai liw nos. Cyflwynydd y sioe oedd Emyr Davies.

Roedd targed wedi ei oleuo wedi ei rannu i 12 cylchran, gyda mwy o bwyntiau ar gael wrth saethu ynghynt (lle byddai'r golomen clai yn hedfan yn gyflymach). Roedd y tîmau yn cynnwys enwogion Cymru ynghyd â saethwr proffesiynol. Roedd rhai o'r capteiniaid cynnar yn cynnwys Ray Gravell, Gerallt Lloyd Owen a Geraint Griffiths.

Dyfeisiwyd y gêm yn yr Alban fel modd newydd o fwynhau y gamp o saethu colomennod clai. Datblygwyd y fformat ar gyfer rhaglen deledu Starshot a gynhyrchwyd ar gyfer BBC Two yn 1987. Canslwyd y gyfres honno ar ôl yr ail raglen wedi Cyflafan Hungerford ond fe ddychwelodd ar sianel ESPN yn 1988.[1][2] Yn 1991 cynhyrchwyd sawl cyfres Gymraeg gan Uned Hel Straeon.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]