Shota Rustaveli
Oddi ar Wicipedia
Bardd o Georgia oedd Shota Rustaveli, Georgeg: შოთა რუსთაველი (fl. c. 1200). Ystyrir ei waith ymhlith clasuron pennaf llenyddiaeth Georgia. Ei waith enwocaf yw Y Marchog mewn croen Panther ("Vepkhist'q'aosani"), epig cenedlaethol Georgia. Ychydig iawn o wybodaeth sydd wedi goroesi am y bardd ei hun.
Argraffwyd Y Marchog mewn croen Panther (ვეფხისტყაოსანი) am y tro cntaf yn 1712, yn Tbilisi; a chyfieithwyd y gwaith i lawer o ieithoedd.