Sgwrs Categori:Teithlyfrau Saesneg

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Angen gwiro'n ofalus![golygu cod]

Mae sawl un o'r llyfrau hyn wedi'u cyhoeddi gan gyhoeddwyr Seisnig yn Lloegr, nid "yng Nghymru" o gwbl. Mae ambell un sy ddim yn llyfr taith hyd yn oed ac mae eraill sy ddim yn ymwneud â Chymru er eu bod gan awduron Cymreig neu wedi'u cyhoeddi yng Nghymru (e.e. gweler y categoriau newydd Categori:Llyfrau am Frasil, Categori:Llyfrau am yr Eidal...). Anatiomaros (sgwrs) 01:46, 6 Medi 2014 (UTC)[ateb]

Hysbysebir / Disgrifir Gwales ar eu gwefan eu hunain gyda'r geiriau 'Llyfrau o Gymru ar-lein' [1]. Weithiau mae'r cysylltiad a Chymru'n frau iawn ee Trieste and the Meaning of Nowhere. Os nad ydym yn cynnwys y wybodaeth fod cysylltiad a Chymru, yna bydd yn rhaid cynnwys categori fel 'Categori:Llyfrau Gwales', neu fydd dim i'w grwpio, er eu bod yn perthyn i grwp (yn ol y Cyngor Llyfrau). Cat manwl = wrth gwrs, mae angen llaw a llygaid i wiro a gwella'r categori cyffredinol, cats cyffredinol iawn sydd gan Gwales ei hun. Pwy well na thi! Diolch am roi trefn arnom... Llywelyn2000 (sgwrs) 05:36, 6 Medi 2014 (UTC)[ateb]
Croeso. Dwi ddim yn gweld angen grwpio'r llyfrau ar wefan Gwales mewn un grŵp ac yn wir byddai'n llai na ddefnyddiol gan fod gymaint o amrywiaeth pwnc ayyb ac yn ddifudd hefyd gan fod cymaint o lyfrau i'w cynnwys: dydy categori sy'n cynnwys miloedd o dudalennau ar wahanol bynciau ddim o gymorth i neb. Mae'r llyfrau am Gymru a gyhoeddwyd tu allan i Gymru - a'r awduron heb fod yn Gymry chwaeth yn achos sawl cyfrol - yn ffitio yn y categori:Llyfrau am Gymru a'r is-gategoriau iddo (sy'n cynyddu o hyd wrth i'r gwaith o gategoreiddio fynd yn ei flaen): cadw golwg arno. Wyt ti'n sylweddoli bod gwaith misoedd i'w wneud ar y tudalennau Gwales? Basai'n sialens anferth ar yr eingl-wici mawr ei hun, heb sôn am ein wici bach ni. Mae'n wych cael yr holl lyfrau yma, ond rargian mae 'na waith i'w wneud, nid jest y cats ond gwiro a 'wicïeiddo' y testun. Ond fe ddaw, gobeithio. Hwyl, Anatiomaros (sgwrs) 00:02, 8 Medi 2014 (UTC)[ateb]
ON Dyma enghraifft arall dwi newydd gweld: A Introduction to GPS and Digital Maps (cywired: "An ..."). Mae popeth yn y frawddeg agoriadol yn anghywir: "Teithlyfr Saesneg gan Clive Thomas yw A Introduction to GPS and Digital Maps a gyhoeddwyd yng Nghymru gan Jarrold yn 2004". 1. Dim yn deithlyfr 2. Mae Jarrold yn gyhoeddwr Seisnig adnabyddus felly fe'i gyhoeddwyd yn Lloegr nid Cymru. Yn fwy na thebyg Sais ydy'r awdur hefyd! Mae nifer fawr o engrheifftiau tebyg, e.e. mae gennym dros 50 o lyfrau o wefan Gwales a gyhoeddwyd gan Sutton Publishing ac a ddigrifir fel "gyhoeddwyd yng Nghymru", ond cwmni Seisnig ydy Sutton, rhan o'r History Press erbyn hyn. Anatiomaros (sgwrs) 00:11, 8 Medi 2014 (UTC)[ateb]
OON Enghraifft arall sy'n amlygu problem ddigon cyffredin. Yn ogystal i'r ffaith ei fod yn llyfr (reit enwog) gan Sais wedi'i gyhoeddi yn Lloegr,cafodd ei gyhoeddi yn y 1920au nid "2005". Dydy Gwales ddim yn nodi'r dyddiad cyhoeddi gwreiddiol gan roi'r argraff ei fod yn lltfr newydd yn hytrach na chlasur bach o deithlyfr. A beth am y rhai sy ddim yn adnabyddus i mi? Nefoedd wen, mae angen gwiro popeth ddaw o wefan Gwales! Anatiomaros (sgwrs) 00:37, 8 Medi 2014 (UTC)[ateb]
Grwpio - er mwyn y bot yn unig; mae'n haws wedyn eu rheoli / ychwanegu / diddymu ee mater bach, fel y soniais yma ydy tynnu 'yng Nghymru' cyn belled a mod i'n gwybod pa gyhoeddwyr / argraffwyr sydd dros y ffin. Y ffordd symlaf ydy hepgor y cymal yma, a dw i wedi gwneud hynny y bore ma efo pob un. Cwestiwn arall ydy beth i'w wneud efo ailgyhoeddiadau? Yr unig ddata sydd gennym ydy'r ailgyhoeddiad, nid y fersiwn cyntaf. Mae'n well gen i fod na erthygl ar lyfr a ailgyhoeddwyd na dim erthygl; pe bawn i'n creu cat anweledig yn eu grwpio, yna mater byddai'n haws wedyn eu gwiro efo llaw. Neu - dileu pob ailgyhoeddiad! Byddai'n well gen i'r cyntaf! Llywelyn2000 (sgwrs) 07:01, 8 Medi 2014 (UTC)[ateb]
Os categori gweinyddol yn unig mae hynny'n wahanol a does dim problem felly. Cytuno efo'r syniad o beidio deud "yng Nghymru", mae'n debyg, o leia yn achos llyfrau Saesneg/dwyieithog.
Parthed yr ailgyhoeddiadau. Doeddwn i ddim yn awgrymu am eiliad peidio cael yr erthygl neu ei dileu oherwydd hynny - gresyn fyddai hynny. Ond dwi ddim yn gweld ateb hawdd chwaeth. Mae'r bai ar Gwales. Mae rhai yn hawdd i'w sbotio i unrhyw un sydd â diddordeb mewn hel a darllen llyfrau Cymraeg neu am Gymru, fel yn achos In Search of Wales neu A Poet's Pilgrimage, ond mae eraill yn gofyn ceisio darganfod y wybodaeth rywle neu'i gilydd. Gadewch y dyddiadau cyhoeddi fel y maen nhw ar wefan Gwales am rwan felly, er bod rhai ohonon nhw yn hanner canrif allan. Gwiro pob tudalen fesul un yw'r unig ateb, gwaetha'r modd... Anatiomaros (sgwrs) 23:26, 8 Medi 2014 (UTC)[ateb]