Sgwrs:W.E. Williams

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Untitled[golygu cod]

A fyddai modd newid enw'r tudalen hwn i "Williams Ellis (W.E.) Williams (Llanllechid)" ? Sy'n codi egwyddor ddyfnach. Mae enwau unigol Cymraeg mor gyffredin, a fyddai’n iawn defnyddio disgrifiadau hyd yn oed pan fod yr enw yn unigryw - ar hyn o bryd. Yn ddiweddar ychwanegais at dudalen John William Thomas. Mae'n wir mai dim ond un o'r enw yma sydd ar Wicipedia - ond, yn rhannol oherwydd cyffredinedd ein henwau, fel "Arfonwyson" e'i hadweinir. Felly awgrymaf "John William Thomas (Arfonwyson)". (cf John Jones - sy'n arwain at tudalen dewis pellach). Yn yr un modd yma. Awgrymaf Williams Ellis Williams (Llanllechid) fel enw. Ond mi wn fod ambell un yn enwog oherwydd ei lythrennau. Gellir cynnwys hwnnw hefyd ee "Emrys George (E.G.) Bowen" Emrys George Bowen. Diddorol sylwi mai E.G. Bowen yn unig sydd ar Wikipedia ! O ddarllen, deallaf mai fel "W.E" yr adweinid W. Ellis William - felly wrth ddefnyddio "Williams Ellis (W.E.) Williams" (Llanllechid) byddai modd sgwario pob cylch ? --Deri (sgwrs) 20:24, 7 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]

Mae'r ewgyddor yma o roi disgrifiad mewn cromfachau wedi'i sefydldu dros y blynyddoedd, Deri, fel y gweli ar John Phillips (addysgwr) (a'i ddalen Sgwrs) neu William Jones (ieithegwr), yn ogystal a'r egwyddor o ddefnyddio'r teitl / enw mwyaf cyffredin e.e. Waldo Williams yn hytrach na Waldo Goronwy William, bod yn hynod o ofalus cyn Cymreigio enwau (g. Sgwrs:Rhestr elfennau yn nhrefn yr wyddor a Sgwrs:Black Elk) a'r defnydd slic o arallgyfeirio o enwau amgen i'r prif deitl / enw. Felly hefyd yr egwyddor o ddefnyddio enwau barddol a llysenwau (Jim Parc Nest) a'r drafodaeth hir ar ei ddalen Sgwrs). Dw i'n synnu mai George Maitland Lloyd Davies yw'r teitl ac nid yr enw roedd yn cael ei adnabod, "George M. Ll. Davies" gan fod yr egwyddor o ddefnyddio'r dewis-enw'r bardd ei hun wedi hen sefydlu. Dw i'n meddwl ein bod hefyd wedi derbyn y patrwm Williams Ellis (W.E.) Williams, yn y gorffennol (ond fedra i ddim nodi enghraifft!)- mi chwiliai am eraill fory. Mae'r defnydd o ddau enw yma ac acw, hefyd, ond yn bersonol, dw i ddim yn hoff ohono e.e. Robert Williams (Robert ap Gwilym Ddu), ond os yw'n gwahaniaethu rhwng person arall, wel pam lai! Croeso i ti newid teitl unrhyw ddalen sy'n dilyn y patrymau hyn: Tab 'Rhagor' -> 'Symud'. Os cei drafferth, rho wybod. Gwych! Llywelyn2000 (sgwrs) 23:57, 7 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]

Diolch. Mi af ati geisio cysoni'r cwpwl o dudalennau 'rwyf wedi bod yn eu hadolygu'r wythnos nesaf (ar ôl darllen dy gyfeiriadau sgwrs). Dydw'i heb fynd ati o'r blaen i newid enwau tudalennau (peth perig !). (Rwy'n paratoi darlith ar Wyddonwyr Gwynedd ac yn defnyddio hwn fel ysgogiad i ychwanegu at ambell dudalen berthnasol. Gobeithio y byddaf wedi adolygu sawl un arall cyn dyddiad y ddarlith !) Trwy gyd ddigwyddiad 'roeddwn yn trafod Robert ap Gwilym Ddu gyda Megan amser brecwast ! (Megan yn meddwl ei bod yn ddisgynnydd i Nicander, oedd yn was ffarm i Robert). Pob hwyl. --Deri (sgwrs) 14:02, 8 Chwefror 2019 (UTC)[ateb]