Sgwrs:Plymouth
Ydyn ni'n dweud 'Aberplym' yn Gymraeg am Plymouth? 'Dydi'r enw yma ddim yng ngeiriadur yr Academi. Mae'r Cernywyr yn dweud 'Aberplym' yn eu hiaith nhw ond ... Siswrn 23:28, 14 Rhagfyr 2006 (UTC)
- Cytunaf yn llwyr. Mae'r enw'n gwbl ddiarth imi beth bynnag. Wnes i sgwennu'r erthygl yn y lle cyntaf ond cafodd yr enw ei newid am ryw reswm. Ei newid yn ôl di'r peth gorau: enghraifft arall o "gor-Gymreigio" gwirion (ac anghyson)?! Anatiomaros 23:34, 14 Rhagfyr 2006 (UTC)
- Cytuno. Wna i newid e'n ôl. Daffy 21:08, 3 Ionawr 2007 (UTC)