Sgwrs:Plymouth

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ydyn ni'n dweud 'Aberplym' yn Gymraeg am Plymouth? 'Dydi'r enw yma ddim yng ngeiriadur yr Academi. Mae'r Cernywyr yn dweud 'Aberplym' yn eu hiaith nhw ond ... Siswrn 23:28, 14 Rhagfyr 2006 (UTC)[ateb]

Cytunaf yn llwyr. Mae'r enw'n gwbl ddiarth imi beth bynnag. Wnes i sgwennu'r erthygl yn y lle cyntaf ond cafodd yr enw ei newid am ryw reswm. Ei newid yn ôl di'r peth gorau: enghraifft arall o "gor-Gymreigio" gwirion (ac anghyson)?! Anatiomaros 23:34, 14 Rhagfyr 2006 (UTC)[ateb]
Cytuno. Wna i newid e'n ôl. Daffy 21:08, 3 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]