Sgwrs:Papurau newydd Cymraeg

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dolen at eto[golygu cod]

Erthygl am hanes papurau newydd Caernarfon a'r cylch.--Rhyswynne (sgwrs) 16:19, 4 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]

Methiant Y Byd[golygu cod]

Credaf bod angen ffynhonnell i'r datganiad mai oherwydd diffyg cefnogaeth ariannol penderfynwyd peidio lansio'r Byd. Nid yw'n hollol glir beth oedd union canfyddiadau ymchwil i'r farchnad gan Dr Toni Bianchi. Papur Dyddiol Cymraeg - Deiseb i Lywodraeth Cymru gan Cymdeithas yr Iaith (Cymrodor)

Golwg360[golygu cod]

Credaf dylid cynnwys Golwg360 yn yr erthygl. Dyma beth cafodd Cymru gan lywodraeth Cymru'n Un wedi iddynt gwneud addewid i lansio papur newydd dyddiol yn Gymraeg, felly fe all, yn yr oes digidol, ei ystyried fel papur newyddion dyddiol, fel mae'n ymddangos i'r glymblaid ar y pryd gwneud. (Cymrodor)

Pwynt da, ‎Cymrodor. Dwi wedi ychwanegu brawddeg amdano. Weithiau y peth gorau i'w wneud ydy mynd ati dy hun i ychwanegu gwybodaeth neu ofyn cyfeiriadau yn yr erthygl - paid â bod yn swil!
ON cofia ychwanegu dy lofnod (pedwar tild: ~~~~) fel bod pobl yn medru gweld pwy sy'n gwneud sylw. Anatiomaros (sgwrs) 00:29, 19 Rhagfyr 2013 (UTC)[ateb]