Sgwrs:Hen Galan

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Cwestiwn neu ddau[golygu cod]

Yn ôl Iorwerth C. Peate yn ei gyfrol Diwylliant Gwerin Cymru, 12 Ionawr oedd yr Hen Galan, nid y 13eg o Ionawr.

"Ac felly mae rhai ardaloedd yn dal i ddathlu'r Hen Galan ar sail yr hen Galendr Iwlaidd a gafodd ei ddisodli ym 1752 gan Galendr Gregori." Ond yn ôl ein herthygl ni am y calendrau Iwlaidd a Gregori, yn 1582 y disodlwyd y cyntaf gan Galendr Gregori; mae'n rhaid mai diwygiad o'r hen Galendr Gregori oedd y newid yn 1752 felly, mae'n debyg?

Dwi ddim yn arbenigwr ar hyn, 'mond eisiau gwybod be 'di be. Anatiomaros (sgwrs) 00:38, 6 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]