Sgwrs:Gwrth-Semitiaeth

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dwi'n credu byddai rhai pobl yn dadlau cynnwys yr erthygl er nad ydwi'n amau na'n gwybod dim am grefydd, oes modd ychwenegu ffynonellau/cyfeiriadau i wneud yn siwr fod rhai ddim yn ceisio cyhuddo'r erthygl o fod yn unochrog neu'n bropoganda? Mae digon iw weld ar yr erthygl Saesneg, beth am gopio rhai drosodd i'r adrannau perthnasol (ond dim ond lle mae'n dweud yr un peth)? Thaf 11:18, 10 Medi 2009 (UTC)[ateb]

Cytuno. Mae rhai o'r pethau a ddywedir yn yr adran "Gwrth-Semitiaeth yn Islam" yn swnio fel Islamophobia i mi. Rhion 11:21, 10 Medi 2009 (UTC)[ateb]
Dyw e ddim yn Islamoffobia, mae'n ffaith. Dyna beth mae'r Quran yn dweud a dyna beth mae'r Mwslemiaid yn credu. Jjabertawe 11:28, 10 Medi 2009 (UTC)[ateb]
Os ydi o'n ffaith, rhestra'r ffynhonell os gweli di'n dda - a nid yn unig y Quarn ond ffynhonell ar gyfer y statements hefyd. Diolch. Thaf 11:42, 10 Medi 2009 (UTC)[ateb]
Y pwynt arall yw mai nid dyma'r unig gyfeiriad at yr Iddewon yn y Quran. Mae cyfeiriadau eraill sydd yn llawer mwy ffafriol iddynt, er enghraifft lle disgrifir hwy fel un o "Bobloedd y Llyfr". Mae'r hyn sydd yn yr adran yma ar hyn o bryd yn rhoi un ochr yn unig. Rhion 12:40, 10 Medi 2009 (UTC)[ateb]
Beth bynnag am gymhellion y cyfranwr, sydd wedi gwneud ei 'genhadaeth' yma ar Wici yn glir, mae hyn yn ffeithiol anghywir: "Dywed yr Hadith yn y Quran...". Hollol amhosibl! Dydy'r 'hadithau' (dywediadau a briodolir i Fohamed) ddim yn cynnwys dyfyniadau o'r Coran. Casgliadau o ddywediadau o'r traddodiad llafar am Fohamed a gasglwyd tua 100-150 mlynedd neu ragor ar ôl ei farwolaeth ydynt. Ceir sawl casgliad, gyda rhai yn fwy 'safonol' neu 'awdurdodol' nac eraill. Mae hyn yn unochrog ac annerbyniol. Gellid gwneud yr un peth yn hawdd yn achos Cristnogaeth, trwy ddyfynu'n ddethol, a pardduo pob Cristion a'r Gristnogaeth ei hun gyda 'gwrth-Semitiaeth'. Anatiomaros 13:24, 10 Medi 2009 (UTC)[ateb]
Alla i ddim rhoi barn ar gynnwys y Quran gan nad ydw i'n gwybod dim amdano, ond troabod gwrth-semitiaeth yn bodoli o fewn sawl cymdeithas, dw i'n amau os ydy beth ysgrifennwyd yn y Quaran cweit yr un peth, gan ei fod yn perthyn i oes hollol wahanol. Dw i am dynnu'r frawddeg "Mae'r rhan fywaf o Fwslemiaid yn dehongli'r pennill hwn yn llythrennol." allan, achos does dim modd yn y byd o wybod beth yw barn mwyafrif o fwslemiaid y byd oni bai bod rhyw gyfrifiad/holiadur wedi ei gynnal.--Ben Bore 15:56, 10 Medi 2009 (UTC)[ateb]
Dwi wedi diwygio'r rhan gyntaf - cwbl annerbyniol - a gofyn am ffynonellau. Mae hyn mor ragfarnllyd ac anwyddoniadurol fel na all aros fel hyn, yn fy marn i. Does gen i ddim amser i wneud hynny rwan ond mae angen dehongliadau eraill hefyd er mwyn cydbwysedd. Ac mi safaf wrth yr hyn a ddwedais uchod - roedd yr honiad "Dywed yr Hadith yn y Quran" ddim yn gywir o gwbl am y rheswm syml mai casgliadau diweddarach o ddywediadau a thraddodiadau yw'r hadithau, heb fod yn rhan o'r Coran o gwbl. Ar ben hynny dydy pob Mwslim ddim yn derbyn - nac yn gwybod - pob un o'r hadithau niferus chwaith. Gwn o brofiad personol nad ydyw'r mwyafrif llethol o Fwslemiaid yn casau'r Iddewon chwaith (mae Israel yn fater arall, ond mae gwrthwynebwyr polisiau'r wladwriaeth honno yn cynnwys Iddewon a phobl o bob lliw a chredo). Anatiomaros 21:10, 10 Medi 2009 (UTC)[ateb]