Hadith

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Rhan o gyfres ar
Islam

Allah1.png

Athrawiaeth

Allah · Undod Duw
Muhammad · Proffwydi Islam

Arferion

Cyffes Ffydd · Gweddïo
Ymprydio · Elusen · Pererindod

Hanes ac Arweinwyr

Ahl al-Bayt · Sahaba
Califfiaid Rashidun · Imamau Shi'a

Testunau a Deddfau

Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith
Fiqh · Sharia
Kalam · Tasawwuf (Swffiaeth)

Enwadau

Sunni · Shi'a

Diwylliant a Chymdeithas

Astudiaethau Islamig · Celf
Calendr · Demograffeg
Gwyliau · Mosgiau · Athroniaeth
Gwleidyddiaeth · Gwyddoniaeth · Merched

Islam a chrefyddau eraill

Cristnogaeth · Iddewiaeth

Gweler hefyd

Islamoffobia · Termau Islamig
Islam yng Nghymru

Ystyr y term hadith (Arabeg: حديث, ḥadīṯ; lluosog ʾaḥādīṯ أحاديث) yw dywediad llafar gan Mohamed, proffwyd Islam, neu un o'r gweithiau sy'n cynnwys casgliadau o'r dywediadau hynny a thraddodiadau eraill am Fohamed a'i gydymdeithion, a ystyrir gan Fwslemiaid fel canllawiau ynglŷn â bywyd personol pob Mwslim a chymuned yr Umma. Maent yn rhan o'r hyn a elwir yn "Draddodiad y Proffwyd" gan Fwslimiaid: dydyn nhw ddim yn rhan o'r Coran ei hun.

Ceir sawl casgliad o ddywediadau a thraddodiadau a elwir yn hadithau. Mae ei awdurdod yn y byd Islamaidd yn amrywio. Mae'r hadithau cynharaf yn rhai y credir iddynt gael eu casglu o fewn cenhedlaeth neu ddwy ar ôl marwolaeth Mohamed tra bod y rhai mwy diweddar yn dyddio o'r 9fed neu'r 10fed ganrif. Mae graddfa eu derbyniaeth gan Fwslemiaid yn amrywio hefyd. Yn achos yr hadithau mwy diweddar, er enghraifft, mae rhai yn rhan o draddodiad y Mwslemiaid Sunni ac eraill yn perthyn i draddodiad y Shia neu enwadau eraill.

Hanes[golygu]

Cafodd traddodiadau am fywyd Mohamed a hanes cynnar Islam eu trosglwyddo ar lafar am dros gan mlynedd ar ôl marwolaeth y proffwyd yn 632 OC.

Dywed haneswyr Mwslemaidd mai'r Califf Uthman (y trydydd khalifa, neu olynydd ysbrydol Mohamed), oedd y cyntaf i annog y Mwslemiaid i roi'r Coran ar glawr mewn ffurf safonol, ac i gofnodi'r hadith. Ond lladdwyd Uthman gan wrthryfelwyr yn 656.

Mae barn haneswyr, o fewn a'r tu allan i Islam, yn rhanedig am yr hyn a ddigwyddodd nesaf. Mae rhai yn credu fod llawer o'r hadithau yn perthyn i'r 7fed a'r 8fed ganrif ond mae eraill o'r farn mai traddodiad llafar oedd yn gyfrifol am y trosglwyddiad, yn bennaf neu'n gyfangwbl. Does dim hadith ysgrifenedig o'r cyfnod hwnnw wedi goroesi.

Roedd ysgolheigion y cyfnod Abbasid yn gorfod wynebu'r ffaith fod y corff mawr o hadithau yn cynnwys tradoddiadau amrywiol iawn gyda gwahaniaethau mawr mewn rhai ohonynt. Roedd angen gosod safonau a phenderfynu pa hadithau oedd yn ddilys a gwahaniaethu rhwng y rhai y gellid eu hystyried yn perthyn i gyfnod Mohamed a'i ddilynwyr a'r lleill, diweddarach, oedd yn aml yn cefnogi barn enwadol neu wleidyddol ar faterion sy'n ganolog i Islam. Ar ddechrau'r 7fed ganrif dechreuodd trosglwyddwyr yr hadith ymchwilio ffynhonnell y dywediad. Dyma gychwyn y syniad o Isnad, sef 'dilysrwydd yr hadith'. Credir i'r casgliadau cynharaf sydd ar glawr heddiw gael eu hysgrifennu yn yr 8fed ganrif.

Prif gasgliadau[golygu]

Sunni[golygu]

Ceir chwech prif gasgliad o hadithau a ystyrir yn hollol ddilys yn y traddodiad Sunni; cyfeirir atynt fel 'y chwech sahîh' (al-sihah al-sitta). Y ddau gyda'r awdurdod mwyaf yw:

Y sahih eraill yw:

  • Casgliad Abû Dawud (817-889), sef y Kitâb as-Sunnan.
  • Casgliad Ibn Majah (824-887), sef Sunan Ibn Majah.
  • Casgliad At-Tirmidhi (824-893), sef Sunan At-Tirmidhi.
  • Casgliad Al-Nasa'i (830-916).

Ceir hefyd:

  • Casgliad Hammam bin Munabbih, al Sahifa as-Sahihah, cynnar ond anghyflawn.
  • Casgliad Malik Ibn Anas (712-795), sefydlwr yr ysgol Malekite, sef Kitab al-Muwatta.
  • Casgliad Ahmad ibn Hanbal Musnâd, sefydlwr yr ysgol Hanbalite (780-855).
  • Y Mishkat Shareef.

Shia[golygu]

Ceir sawl casgliad o haithau Shia. Y pwysicaf yw:

  • Casgliad Ya'qub al-Kolayni (m. 939).
  • Casgliad Saduq Ibn Babuyeh (m. 991).
  • Casgliad Al-Hasan at-Tusi (m. 1068).

Dolenni allanol[golygu]


Islam template b.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.