Islamoffobia
|
Rhan o gyfres ar |
|
|---|---|
| Arferion |
|
|
Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith |
|
| Sunni · Shi'a | |
|
Astudiaethau Islamig · Celf |
|
|
Islam a chrefyddau eraill |
|
| Cristnogaeth · Iddewiaeth |
|
|
Islamoffobia · Termau Islamig |
|
Ofn crefydd Islam a Mwslemiaid yn gyffredinol yw Islamoffobia. Yn aml mae'n cynnwys elfennau o hiliaeth hefyd, gan fod llawer o Fwslemiaid yn Arabiaid neu Asiaid.
Er bod enghreifftiau cynnar o Islamoffobia a rhagfarn yn erbyn Islam a'i dilynwyr i'w cael yn hanes Ewrop o'r Oesoedd Canol ymlaen, mae'r term ei hun yn bur ddiweddar. Daeth yn air cyfarwydd gyda thwf Islamiaeth a therfysgaeth gan ffwndamentalwyr, yn enwedig yn sgîl ymosodiadau 11 Medi 2001 yn yr Unol Daleithiau.
Yn y Deyrnas Unedig mae grwpiau asgell dde eithafol fel y BNP wedi cael eu cyhuddo o hyrwyddo Islamoffobia a manteisio arno i ennill cefnogaeth.