Sgwrs:Crash.Disco!

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Amlygrwydd?[golygu cod]

Prosiect gan ddyn ifanc 17 oed, cychwynwyd eleni. Sut all hyn fod yn ddigon amlwg i gael erthygl yma? Anatiomaros 18:49, 23 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Pwy sydd angen rhesymau pan mae ganddo cefnogaeth gan Huw Stephens! [1] (Sylw gan Messi)
O chwilio ar Google, does dim sôn amdano heblaw am ei MySpace ei hun. Dw i ddim yn gweld bod cael cân wedi ei chwarae ar radio unwaith yn ddigon o amlygrwydd, ond rydym wedi gosod cansail yn barod drwy ganiatau bandiau eraill bi-nod (dw i ddim yn trio bod yn gâs) i aros. Nes bod ni'n llunio polisi amlygrwydd, falle dylwn ei adael am y tro.--Ben Bore 14:13, 24 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Digon Teg. Efallai bod creu tudalen ar gyfer Crash.Disco! yn ddi-bwynt (ar hyn o bryd). Messi 18:10, 24 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Er hynny, fe wnes i bach o fe wnes i bach o ymchwil fy hun... [Blog Adam Walton]
[Buffalo Bar, Caerdydd]
[Rhaglen Bethan Elfyn ar Radio 1]
[Huw Stephens ar Radio 1]
[Huw Stephens ar Radio 1 (II)]
Hmmm....

Messi 14:46, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

"Hmmm", efallai, ond peidiwch dynnu'r nodyn eto heb i ni ddod i gytundeb yma yn gyntaf, os gwelwch yn dda. Anatiomaros 22:06, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Rhoddwyd rhybudd iddo a wnaeth o ddim gwrando, felly mae angen ei gystwyo, yn fy marn i. Dw i'n siwr ei fod wedi cofrestru o dan enw arall hefyd ar wahan i Missi. Sut mae darganfod ei gyfeiriad IP? Llywelyn2000 22:08, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Gweler Wicipedia:Negesfwrdd gweinyddiaeth#Dau gyfrif newydd gan un person?. Dim amheuaeth yn fy marn i. Doeddwn i ddim yn gwybod am y rhybudd chwaith... Anatiomaros 22:21, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Iawn, Ymddiheuriadau. Dal ddim cweit yn deall y 'rheolau'. (noob) 'Nai'm gwneud unrhyw gyfraniad arall. Messi 23:28, 1 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

[NME Post] Messi 19:59, 20 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Mae'n ddrwg gen i ddweud, ond y math hyn o reolau aneglur iawn i ddefnyddwyr sydd yn gwneud i fi amau a ddylwn i gyfrannu at Wicipedia. Mae rhywun yn disgwyl i'r lle fod yn fan lle gall rhywun gyfrannu at gronni gwybodaeth am ddiwylliant Cymraeg. Mae llu o erthyglau yma am athronwyr Tsieiniaidd a ffacsimilis o erthyglau mewn ieithoedd eraill, ond mae erthyglau digon diniwed am fandiau Cymraeg yn cael eu cwestiynu. Onid oes perygl i'r Wicipedia fod yn amherthnasol os nad yw'n canolbwyntio ar geisio adlewyrchu Cymru gyfoes? Os mae rhywun yn fodlon ysgrifennu erthygl am fand yna gadwch iddyn nhw wneud! A ma'r rhybuddion am gystwyo a banio yn ddigon i atal rhywun rhag cyfrannu ymhellach ynddo'i hun. --Rhodri ap Dyfrig 12:12, 8 Rhagfyr 2011 (UTC)[ateb]

Ia, galla i weld bod hyn yn ymddangos yn petty, (yn enwedig gan dod Crash.Disco! wedi dod ffigwr yn reit amlwg yn y byd cerddorol Cymraeg). Ond ar y pryd doedd dim modd i rai nad sy'n dilyn cerddoriaeth electronica Cymraeg/Cymreig fod a syniad pwy oedd o, a doedd dim cyferiaidau ato ar y we ag eithrio ei MySpace ei hun. Hefyd, mae amheuaeth mai'r artist ei hun greodd yr erthygl. Eto, ydy hyn yn 'drosedd' mor wael a hynny - mae'n siwr bod esiamplau eraill o hyn wedi digwydd gyda unai neb yn sylwi neu ddim yn dangos gwrthwynebiad? Mae'n anodd cael balans rhwng bod a gormodedd o reolau pitw ar un llaw, a bod a dim canllawiau neu'r rheini'n rhy amwys ar y llaw arall. Yn sicr, mae peth fel hyn yn mynd i gael dylanwad ar awydd unigolyn, yn enwedig cyfranwr newydd, i gyfrannu yn y dyfodol. Falle dyma fydd testun nesaf y blog Wicipedia Cymraeg answyddogol! --Ben Bore 13:32, 8 Rhagfyr 2011 (UTC)[ateb]
Nid adlewyrchu Cymru gyfoes yw rôl Wicipedia, ond adlewyrchu lle'r Gymraeg mewn byd modern, electronig, cyfoes ydyw. Nid Wicipedia Cymru mo Wicipedia, ond Wicipedia yn y Gymraeg. Imi yn bersonol, nid yw'r math o erthyglau fel hyn yn bryder imi - mae digon o le yng ngweinyddion Wicifryngau, ond a fyddai'r un erthygl gael ei ganiatáu i aros ar en? Dyma'r cwestiwn gwreiddiol a ofynnwyd (wir) gan Anatiomaros, hynny yw, a yw'n haeddu lle? Eto, nid oes ots gennyf. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 23:39, 8 Rhagfyr 2011 (UTC)[ateb]
Baswn i'n dweud bod lle yma i wneud y ddau beth, sef cyflwyno gywbodaeth universal yn Gymraeg ac adlewyrchu Cymru gyfoes yr un pryd - yn enwedig gan mai pin yw;r mannau i wneud hynny arlein (ac oddiarlein).--Ben Bore 09:18, 9 Rhagfyr 2011 (UTC)[ateb]
Dwi'n derbyn nad gwyddoniadur Cymreig yn unig yw Wicipedia, a faswn i ddim eisiau hynny, ond mae perygl mewn canolbwyntio ar gael erthyglau cyffredinol pan gellir dadlau bod erthyglau diwylliannol spesiffig i Gymru o werth mwy i ddarllenwyr Cymraeg (maent yn unigryw, maent o'i hanfod am fod yn ddyfnach, maent yn ychwanegu at wybodaeth wreiddiol, gallant fod yn llawer mwy cyfredol) ac yn gwneud cyfraniad mwy at le'r Gymraeg arlein, sydd mae'n rhaid yn un o egwyddorion sefydlu Wicipedia Cymraeg yn y lle cyntaf. Mae be sy'n nodedig i ddarllenwyr Cymraeg yn wahanol i be sy'n nodedig i ddarllenwyr Wikipedia Saesneg. Dwi ddim yn credu bod unrhyw werth mewn gofyn "a fyddai'n caelei gyhoeddi ar Wikipedia en?", am bod gwerthoedd diwylliannol wikipedia en yn wahanol. Dylai'r rhestr erthyglau sydd eu hangen gynnwys llawer iawn mwy o erthyglau am Gymru hefyd yn fy marn i, neu roi blaenoriaeth i erthyglau am Gymru efallai. Mae'n siwr bod ystadegau am faint o erthyglau sydd yn unigryw i'r Wicipedia Cymraeg. Oes ffordd o hyrwyddo'r rheiny'n well? Dwi'n siwr bod chi wedi cael trafodaeth am hyn i gyd o'r blaen. Hapus i gael fy nghyfeirio ato. --Rhodri ap Dyfrig 14:02, 12 Rhagfyr 2011 (UTC)[ateb]