Sgwrs:Clwb Golff Ffestiniog

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Diolch am eich cyfraniadau heno, unwaith eto, am Stiniog a'r cylch, ond mae un cwestiwn yn codi. Yma ac yn yr erthygl ar Llafar Bro, rydych chi'n rhoi enwau nifer o swyddogion. Dydy pawb ddim yn hapus i weld eu henwau ar wefan gyhoeddus fel y wicipedia, heb ganiatâd, yn enwedig os nad ydy ei swydd yn un amlwg a "chyhoeddus", e.e. Llywydd, neu Brif Olygydd. Ydych chi'n siwr am gynnwys y manylion yma fel hyn? Yn achos ysgolion, er enghraifft, dim ond y prif athro sy'n cael ei enwi, yn ôl ein rheolau, dim yr athrawon eraill. 'Da ni ddim isio ypsetio neb a thynnu nyth cacwn am ein pennau, dyna'r pwynt. Anatiomaros 23:37, 29 Hydref 2008 (UTC)[ateb]