Sgwrs:Celliwig

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Untitled[golygu cod]

Oherwydd prinder amser y dyddiau hyn fedra i ddim ymchwilio'r ffynonellau gwrediddiol ond dwi'n credu fod Gelli Wig hefyd yn cael ei ddefnyddio. Llywelyn2000 22:48, 22 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]

Ia, mae 'na sawl amrywiad i'w cael, ond Celliwig sy'n arferol (dyna sy gan Bromwich a D. S. Evans yn eu golygiad o Culhwch ac Olwen, er enghraifft. Wna'i nodi 'Gelli Wig' (+'Gelli-wig'?) yn yr erthygl rwan. Dyma ni ar y sifft nos eto (daeth ein ffrind o'r Stêts yma hefyd, eto...). Anatiomaros 23:43, 22 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Do, a mi wnest ti ei ffiltro, megis hen waddod sur. Diolch i ti. Cofia wiro sillafiad Gelli-wig / Gelli Wig ac ychwanegu'r cyfeiriadaeth os cei gyfle. Cha i ddim am blwc. Mae amser yn brin fel aur. Prinach. Nos da, gyfaill. Llywelyn2000 23:48, 22 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Hen bryd i mi roi'r gorau am heno hefyd - dod yma ar ddiwedd y nos "am bum munud", fel arfer! Nos da i ti, Llywelyn, a chym ofal. Anatiomaros 23:56, 22 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]