Celliwig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Lleoliad llys y Brenin Arthur yw Celliwig neu Celli-wig (amrywiad: Gelli Wig), yn ôl y traddodiadau cynharaf amdano. Ceir y cyfeiriad cynharaf yn chwedl Culhwch ac Olwen (11eg ganrif efallai) a chyfeirir ato fel safle llys Arthur yn Nhrioedd Ynys Prydain hefyd. Mae ei leoliad yn ansicr ac mae hyn wedi arwain at sawl ymgais i'w lleoli; mae'n bosibl mai llys arallfydol oedd hi yn wreiddiol a dynwyd i mewn i Gylch Arthur.

Y traddodiad[golygu]

Yn Culhwch ac Olwen mae'r arwr Culhwch yn ceisio ennill llaw Olwen ferch y cawr Ysbaddaden Bencawr. Am fod ei lysfam wedi tynghedu na cheiff briodi neb ond Olwen - y forwyn decaf erioed - mae Culhwch yn teithio i lys ei gefnder y Brenin Arthur yng Nghelliwig yng Nghernyw i gael ei gymorth a'i gynghor. Cedwir drws y neuadd gan Glewlwyd Gafaelfawr, porthor Arthur, ac mae Culhwch yn wynebu nifer o anawsterau cyn cael mynediad i'r llys am fod gwledd wedi dechrau a bod rheolau arbennig yn rhwystro dieithriaid rhag mynd i mewn.

Disgrifir y rhyfelwyr yng Nghelliwig yn fanwl. Dywedir gall Drem weld gwybedyn mor bell i ffwrdd â'r Alban tra bod rhyfelwr arall, Medr, yn medru saethu saeth o'i fwa rhwng coesau dryw yn Iwerddon o'r llys. O Gelliwig y mae Arthur a'i ryfelwyr yn cychwyn ar ei anturiaethau er mwyn cynorthwyo Culhwch. Yno hefyd mae'n dychwelyd ar ôl hela'r Twrch Trwyth.

Yn Nhrioedd Ynys Prydain, "Celliwig yng Nghernyw" yw un o leoliadau llys Arthur hefyd, ynghyd â Mynyw a Phen Rhionydd (yn yr Hen Ogledd). Mae'r triawd yn ychwanegu mai Bydwini yw ei "ben esgob" ac mai Caradog Freichfras yw ei "ben hynaif" (?cynghorwr).[1]

Mae'n bosibl fod y gerdd Gymraeg Canol 'Pa Gwr yw y Porthawr' wedi ei lleoli yng Nghellwig gan mai Glewlwyd Gafaelfawr yw porthor y llys ynddi.

Dim ond yn ddiweddarach, yng ngwaith Sieffre o Fynwy a'i ddilynwyr, y dywedir mai yng Nghaerllion-ar-Wysg yng Ngwent yr oedd llys Arthur.

Lleoliadau posibl[golygu]

Mae nifer o ymchwilwyr i Gylch Arthur wedi ceisio lleoli Celliwig. Mae'r enw ei hun yn bur gyffredin (celli + gwig: "llwyn o goed"). Mae cynigion yn cynnwys Gweek Wood a Kelly Rounds yng ngogledd Cernyw.[2] Ceir lleoedd o'r enw Celliwig neu enwau tebyg yng Nghymru hefyd, ond mae'r traddodiadau Cymreig cynnar yn ddiamwys o blaid lleoliad yng Nghernyw. Posibilrwydd arall ydy Tintagel.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Rachel Bromwich, Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1978), triawd 1.
  2. Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Caerdydd, 1988), tt. lxxix-lxxx.

Gweler hefyd[golygu]