Sgwrs:Catrin o Ferain

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Untitled[golygu cod]

"Mam Cymru" neu "Mam Gymru"? -- Jac-y-do 16:23, 8 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Mam Cymru. Dyw 'Cymru' ddim yn ansoddair ar yr enw 'mam' am fod 'Cymru' yn perthyn yn ramadegol i 'mam'. Yn Saesneg, byddwn yn dweud "The Mother of Wales" neu "Wales' Mother," sydd fel arfer yn dynodi'r cyflwr meddiannu (dwi'n meddwl!). -- Xxglennxx sgwrscyfraniadau 17:07, 8 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Rwyt ti yn llygad dy le. Anatiomaros 18:11, 8 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Onid "Cain ei llun, cannwyll Wynedd" a ddylai fod yma? Mae'n hen drawiad beth bynnag! Eisingrug 17:02, 14 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Eisingrug: dau gwestiwn bychan. Yn gyntaf, pa ffynhonnell sydd gen ti fod "Cain ei llun, cannwyll Wynedd" yn hen drawiad? Yn ail, os ydy "Cain ei llun, cannwyll Gwynedd" yn anghywir yna pam na wnei di ei gywiro? Llywelyn2000 20:54, 14 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Y gynghanedd, wrth reswm, sy'n awgrymu camgymeriad. Dydw i ddim yn siwr os oes gen i gopi o'r gerdd, ond ni all fod yn gynghanedd lusg ychwaith gan mai ail linell cwpled o gywydd ydyw. Gofyn barn rhywun uwch ei awdurdod ydw i.
O ran "hen drawiad" - rwy'n cyfeirio at y ffaith bod yr union linell yn ymddangos ym "Marwnad Lleucu Llwyd". Dim byd mawr. Eisingrug 21:36, 14 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Wps! Cywirwyd ar ôl chwilio ymhob man amdano! Rwyt ti'n iawn am yr 'hen drawiad' hefyd, Eisingrug - roedd yr hen feirdd yn tynnu ar fformiwlau stoc y Traddodiad Barddol, wrth gwrs. Anatiomaros 21:51, 14 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Diolch, Anatiomaros. Dwi'n ymddiheuro os ymddengys mai'r cwbl dwi'n ei wneud yw tynnu sylw at gamgymeriadau - dwi'n bwriadu gwerthredu'n fwy cadarnhaol yn y man! Trio cywiro mân lithriadau anochel yn y gwaith gwych sy'n bodoli eisoes ydw i; nid codi cwenc. Eisingrug 22:05, 14 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Croeso! Paid â bod yn swil os wyt ti'n meddwl fod angen cywiro rhywbeth (mae'n dda cael ffynhonnell os oes perygl bydd y newid yn ddadleuol, wrth gwrs) neu'n teimlo fel ehangu'r erthyglau - neu greu rhai newydd, hyd yn oed. A diolch am dy gyfraniadau. Mae "mân lithriadau" yn anorfod braidd ar hyn o bryd am fod cymaint o waith i'w wneud a dim digon o amser i wneud popeth. Ond o leia rydym ni wedi gosod y seiliau: mater o wella erthyglau a llenwi'r bylchau ydy hi rwan (mae rhai o'r bylchau hynny'n anferth, ond ta waeth...). Anatiomaros 23:12, 14 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Diolch. Llywelyn2000 05:23, 15 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]