Sgwrs:Biwmares

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Biwmaris neu Biwmares?[golygu cod]

Mae Wicipedia ar hyn o bryd yn anghyson ynglyn â'r sillafiad Cymraeg am 'Beaumaris'. Yn yr erthygl hon am enw'r dref, defnyddir 'Biwmaris'; yn yr erthygl am y castell Castell Biwmares defnyddir 'Biwmares' ac mae tudalen ail-gyfeiro oddi ar Castell Biwmaris. P'run sy'n gywir?

Mae Gwilym T. Jones a Thomas Roberts[1] yn rhoi un ffurf yn unig, sef 'Biwmares'.

Dywed Islwyn Williams [2],

Profodd yr Athro Gruffydd Aled Williams fod sail bendant i'r ffurf BIWMARES a bod y ffurf wedi ei ddefnyddio ers canrifoedd. Mae'r arbenigwyr ar enwau lleoedd fel Melville Richards, Tomos Roberts, Gwilym T. Jones, Hywel Wyn Owen, Gwynedd Pierce a Bedwyr Lewis Jones, i enwi ond ychydig, i gyd yn defnyddio Biwmares yn eu llyfrau. Bellach defnyddir y sillafiad Cymraeg BIWMARES yn gyson yn y cyhoeddiadau Cymraeg...

Mae adnodd arlein Canolfan Bedwyr yn rhoi'r un ateb.

Nid yw'r Cyngor Tref yn ffafrio unrhyw ffurf Gymraeg - eu dewis yw defnyddio 'Beaumaris' yn y Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg.

Dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, rhoddwyd y cyfrifoldeb am enwi cymunedau i'r Cyngor Sir. Wedi ymgynghori â'r arbenigwyr iaith a'r Cyngor Dref, penderfynodd y Cyngor Sir ym 1998 i fabwysiadu'r ffurf 'Beaumaris' yn Saesneg a 'Biwmares' yn y Gymraeg.

Yn sgîl hyn oll, 'rwyf yn bwriadau symud 'Biwmaris' i 'Biwmares' yma - onibai bod dadl buan i'r gwrthwyneb! D22 19:02, 10 Awst 2006 (UTC)[ateb]

Wedi gwneud hyn bellach D22 22:05, 22 Awst 2006 (UTC)[ateb]

Cyfeiriadau[golygu cod]

  1. Gwilym T. Jones a Thomas Roberts (1996) Enwau Lloedd Môn, Cyngor Sir Ynys Môn, ISBN 0 904567 71 0
  2. tudalen 13, Islwyn Williams Biwmares yn Nabod Môn (2003) Golygyddion: Dewi Jones a Glyndwr Thomas, Gwasg Careg Gwalch ISBN 0 86381 832 3

Nid yw Biwmares yn gywir - nid oes sillafiad Cymraeg (na Saesneg) i'r dref. Beaumaris ydi'r unig sillafiad a byddwn yn pwyso'n gryf i newid hyn ar holl erthyglau'r dref ar Wiki Cy Blogdroed (sgwrs) 14:39, 22 Ebrill 2018 (UTC)[ateb]

Fel rhywun sy'n byw yn y dref ac un sy'n ymwneud â sefydliadau yn y dref, nid oes unrhyw un yn defnyddio'r sillafiad "gwneud" yma. Ac mae'r erthygl yn dweud mai enw "Saesneg" ydi Beaumaris ... byddwn i'n dadalau mai Normanaidd ydi o! Blogdroed (sgwrs) 09:14, 30 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]
Rwy'n cymryd eich pwynt. Ond mae'r mater o sillafu enwau lleoedd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i Fôn. Mae'n rhaid i ni barchu'r sillafiad sy'n cael ei ddefnyddio gan drigolion y dref, ond nid dyna'r unig ffactor. Nid oes unrhyw un sy'n byw yn Tsieina yn ei galw'n "Tsieina" (neu "China" chwaith!). Beth sy'n bwysig yw nid yr hyn y dylid ei alw'n lle, ond y ffurf rydych chi'n debygol o ddod ar ei draws wrth ddarllen llyfr neu adroddiad newyddion, neu beth bynnag.
Yn anffodus, nid yw Gwefan Comisiynydd y Gymraeg yn gweithio ar hyn o bryd (o achos yr ymosodiad seiber ym mis Rhagfyr), felly ni allaf edrych ar y rhestr swyddogol o enwau lleoedd er mwyn gweld beth mae'r llywodraeth yn ei ddweud.
Rwy'n credu ei bod yn rhesymol dweud bod "Beaumaris" yn air Saesneg. Dyna'r sillafiad y byddech chi'n ei ddefnyddio pe byddech chi'n ysgrifennu Saesneg. Efallai mai tarddiad y gair yw Normanaidd, ond nid yw hynny'n ei atal rhag bod yn enw Saesneg.
Ond mae'r hyn rydych chi'n ei ddweud yn ddiddorol iawn. Diolch. --Craigysgafn (sgwrs) 12:09, 30 Ionawr 2021 (UTC)[ateb]