Sgwrs:Beiau Gwaharddedig Cerdd Dafod

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Newidiadau[golygu cod]

  1. Cyfeiriadau: Nid oes angen cyfeirio at bob un tudalen - dros wneud hynny, mae'r erthygl yn dod yn hirach ac yn hirach. Oherwydd bod mai dim ond dau lyfr sy'n gyfeiriadau, mae'n arferol i beidio â chynnwys y tudalennau ond y enw'r llyfr (ac ati) ei hun. Dyma'r drefn ar en hefyd. Pe gwneir hyn gyda dim ond dau lyfr, sef cyfeirio at bob un tudalen a ddyfynnir, mi fydd y cyfeiriadau'n hirach na'r erthygl ei hun.
  2. Safbwynt niwtral: Mae'r llinell "Mae gan Gerdd Dafod nifer fawr o reolau pendant er mwyn boddhau'r glust" yn cynnwys barn bersonol (yn fy marn i). Does dim angen cyfeirio at y hyn a wneir i'r glust. Datganiad pwy ydy hwnnw (am foddhau'r glust)? Pe daeth o ryw gyfeiriad, cyfeiriwch fe. Os yw'n farn bersonol, cewch wared â hi.
  3. Sillafu a geiriau: Mae dau 'n' gyda "ysgrifennwyd", nid "ysgrifenwyd." Mae'n ddrwg gen i am newid y gair "proestio" - doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn cyfeirio at ffurfio proest rhwng y dau air dan sylw - meddyliais mai jyst "rhigymu" oedd e. Camddeallais. Mae 'na 'i' ar ôl y 's' yn "dyfeisiwyd". A doeddwn i ddim yn gwybod bod fersiwn benywaidd o'r ansoddair "pendrwm" yn bodoli. Ie, gair benywaidd yw llinell, ond mae gan "pendrwm" (improper) ddim ond un cenedl o'm gwybodaeth, ond ar ôl chwilio, des i o hyd i'r ddolen hon, felly chi sy'n iawn :) Wedi dweud hynny, dwi'n siŵr mi fyddai'r dudalen 'na o ddiddordeb ichi.
Gobeithio fod hyn yn glirach. Ydych chi am dderbyn fy nghynigion o'r cyfeiriadau a'r sillafiadau? Mae'n iawn ichi beidio, wrth gwrs. -- ☺ Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:10, 17 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Cyfiawnhad

1. Cyfeiriadau

Mae'r gynghanedd yn gysyniad anodd i lawer ac yn mynnu darllen eang gan nifer o awduron (Alan Llwyd, JMJ, Myrddin ap, Iolo Morganwg, Dafydd Morgannwg (Yr Ysgol Farddol), Dewi Emrys... mae digon ohonynt.

Mae "Cerdd Dafod" yn adargraffiad drwy lun, felly nid yw'n hawdd "fflicio" trwyddo. Mae'r cyfeiriadau wedi'u talfyrru (DG yw Dafydd ap Gwilym ac yn y blaen. Cyn 1947 nid oedd gan y llyfr fynegai, ond mae mynegai Geraint Bowen bellach yn gynwysedig. Felly, gall rhifau tudalennau fod yn hwylus i chwilio am ddisgrifiad llawnach o'r beiau hyn (a mwy o feiau mwy gramadegol).

Mi es i drafferth i chwilio am y tudalennau - trugarha wrthyf.

Iawn. Fel dedais yn barod, sdim probs gen i efo'i wneud fel hyn - jyst ceisio adfer lle o'n i, ond sdim ots. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:32, 17 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

2. Barn

Rhywbeth i'r glust yw cynghanedd. Mae'r rheolau hyn yn puro'r gynghanedd (e.e. proest yn atal dau air rhag bod yn rhy debyg gan swnio'n anghywir). Nid rheolau mewn gwactod ydynt, ac nid rheolau dibwynt gan ddyn "obnoxious" (dim gair Cymraeg yn cyfleu cweit yr un peth!). Felly, nid barn ydyw i ddweud mai rheolau i foddhau'r glust ydynt, dim ond sylwad cyffredinol heb ei gefnogi'n ffurfiol eto. Gofyn i unrhyw fardd ac mi wna nhw sôn am y "glust".

Iawn. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:32, 17 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

3. "Awgrymiadau Gramadeg"

Digon teg. Rhwng mân lithriadau a diffyg gwybodaeth ar fy rhan i, mae camgymeriadau'n anochel. Eisingrug 00:22, 17 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]

Run â phawb :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:32, 17 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
[gwrthdaro golygyddol] Mae'n hwyr ac dwi am roi'r gorau i'r we am heno, ond rhaid i mi nodi nad oedd Eisingrug yn mynegi barn wrth sgwennu "Mae gan Gerdd Dafod nifer fawr o reolau pendant er mwyn boddhau'r glust". Basai pawb yn cytuno achos traddodiad llafar oedd y Traddodiad Barddol yn y bôn ac mae digon o ysgrifenwyr yn cyfeirio at y ffaith fod y gynghanedd yn "boddhau'r glust". Mae'n rhan anatod ohoni. Nos dawch! Anatiomaros 00:24, 17 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Mae'n waith da, ta waith. Diolch ichi am ei wneud. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:32, 17 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n ymddiheuro os bues i braidd yn chwyrn fy amddiffyniad, ond gwyn y gwêl y frân ei herthygl am wn i. Tro nesa, rho gyfle i mi ei gorffen cyn ei hail-wampio os gweli di'n dda. Mae'r bleidlais yn saff, gyda llaw, am rŵan!! Eisingrug 00:51, 17 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Na na, dim o gwbl! Mae'n well drafod y pethau bychain (!) fel hyn! Haha! Diolch. Swnio fel blacmel, ond diolch ;) :D -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:59, 17 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Dyfynnu

"Cyfeiriadau: Nid oes angen cyfeirio at bob un tudalen - dros wneud hynny, mae'r erthygl yn dod yn hirach ac yn hirach. Oherwydd bod mai dim ond dau lyfr sy'n gyfeiriadau, mae'n arferol i beidio â chynnwys y tudalennau ond y enw'r llyfr (ac ati) ei hun. Dyma'r drefn ar en hefyd. Pe gwneir hyn gyda dim ond dau lyfr, sef cyfeirio at bob un tudalen a ddyfynnir, mi fydd y cyfeiriadau'n hirach na'r erthygl ei hun."

Er fy mod yn gyfranwr yma ac ar 'en' ayyb ers blynyddoedd - ac yn weinyddwr hefyd - rhaid i mi gyfadde doeddwn i ddim yn ymwybodol o'r polisi yma o'r blaen. I ryw raddau mae'n gwneud synnwyr, er mwyn osgoi cael "cyfeiriadau'n hirach na'r erthygl ei hun", ac eto dwi ddim yn deall pam y dylai hyn fod yn rheol haearnaidd. Cyn belled ag y mae cyfeirio at dudalennau penodol yn y cwestiwn, dwi'n ceisio gwneud hynny fel rheol fy hun (eithriadau yw rhywbeth fel y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru lle ceir y wybodaeth dan enw'r person/pwnc a sawl argraffiad diwygiedig o'r llyfr hefyd sy'n golygu fod rhif y tudalennau'n amrywio). Dyna'r dull academaidd safonol, wrth gwrs. Yn y gorffennol roedd pethau'n eitha llac, hyd yn oed ar 'en', gyda llawer o erthyglau heb gyfeiriadau o gwbl. Yn bersonol byddai'n well gen i gael gormod o gyfeiriadau na dim digon neu ddim o gwbl. Yn ogystal, dydy rhoi llyfr fel ffynhonnell heb nodi'r dudalen benodol ddim yn profi ryw lawer o gwbl. Tybed a oes modd cael dewis 'cuddio/dangos' yn y nodyn Cyfeiriadau? Dyna un modd i ddatrys y broblem.
Yn achos y cyfeiriadau manwl gan Eisingrug yn yr erthygl hon, dwi'n meddwl fod hynny'n rhywbeth i'w groesawu a'i ganmol, yn enwedig gan nad oes mynegai i'r gyfrol wreiddiol (fel yn achos fy nghopi personol!) a gwn o brofiad mor drafferthus yw chwilio am rai pethau oherwydd hynny. Anatiomaros 22:35, 17 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Yr unig ffordd o'i wneud yw creu nodyn Cyfeiriadau newydd sydd â'r gallu 'na. Paid â chamddeall - dwi ddim yn erbyn y ffordd y gwneir nawr gan Eisingrug, dim o gwbl, ond jyst ceisio adfer lle o'n i a chadw estheteg. Ni fyddai'n broblem wrth i'r erthygl dyfu gyda mwy o wybodaeth. I ffwrdd â fi i newid y Cyfeiriadau gan roi rhif iddo i'w byrhau. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 23:49, 17 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Diolch am yr ymateb. Doeddwn i ddim yn beirniadu di, wrth gwrs. Basai nodyn newydd yn cynnwys 'cuddio/dangos' yn wych (gwell ailwampio'r un sy gennym efallai, neu mi fydd yn anghyson ac yn golygu lot o waith i'w newid yn yr erthyglau? neu ailgyfeirio'r hen nodyn i'r un newydd ar ôl ei greu efallai?). Dim brys arbennig beth bynnag, mond awgrym! Anatiomaros 23:57, 17 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Awgrym da, ond dwi ddim yn meddwl ein bod ni angen y fath nodyn, gan ein bod yn gallu datrys Cyfeiriadau hir iawn wrth roi rhif i mewn, fydd yn dilyn i golofnau - gweler yr un cyfredol :) -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 00:02, 18 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]
Rargian! Dwi'n dysgu pethau newydd o hyd! Rhaid i mi gofio am hynny. Diolch! Anatiomaros 00:05, 18 Gorffennaf 2010 (UTC)[ateb]