Wicipedia:Safbwynt niwtral

Oddi ar Wicipedia

Colofn werdd Mae safbwynt niwtral (SN neu Neutral point of view / NPOV yn Saesneg) yn un o Bum Colofn o Wicipedia. Mae'n rhaid i gynnwys gwyddoniadurol erthyglau Wicipedia gael eu hysgrifennu o safbwynt niwtral, gan gynrychioli gwahanol farn arwyddocaol yn deg, yn gyfatebol, a chyn belled â phosibl, heb ragfarn, ac wedi cael eu cyhoeddi gan ffynonellau dibynadwy. Mae hwn yn bolisi cadarn ac wedi'i ddisgwyl gyda phob un erthygl a phob un golygydd.

Ffynonellau dibynadwy a barn niwtral

Mae "safbwynt niwtral" yn un o dri pholisi craidd o Wicipedia, yn ogystal â "Gwiriadrwydd" (verifibility) a "dim ymchwil gwreiddiol." Mae'r polisïau hyn yn pennu math a safon deunydd sy'n dderbyniol mewn erthyglau Wicipedia. Ni ddylid eu hystyried ar eu pennau eu hunain, ond yng nghyd-destun gyda'i gilydd, felly dylai golygyddion ymgyfarwyddo eu hunain â'r tri pholisi hyn. Ni all yr egwyddorion y mae'r polisïau hyn wedi'u seilio arnynt gael eu disodli gan bolisïau na chanllawiau eraill, gan gytundeb ymysg golygyddion.

Esboniad am arddull ddiduedd[golygu cod]

Safbwynt diduedd[golygu cod]

Mae'r arddull ddiduedd yn fodd i ddelio â safbwyntiau cyferbyniol ar bwnc penodol fel y dengys y ffynonellau dibynadwy. Golyga fod yn rhaid i bob safbwynt mwyafrifol, a lleiafrifoedd sylweddol, gael eu cyflwyno mewn ffordd deg, mewn arddull ddi-ddiddordeb, ac mewn ymateb i'w amlygrwydd o fewn y deunydd crai. Felly, ni ddylid symud deunydd ar y sail ei fod yn rhoi safbwynt yn unig, er y gellir ei fyrhau neu symud os yw'n rhoi sylw gormodol i safbwynt lleiafrifol, fel yr esbonnir isod.

Golyga safbwynt diduedd nad yw arddull yr ysgrifennu naill ai'n cydymdeimlo neu'n dilorni'r pwnc, ac nid yw'n cymeradwyo na'n gwrthwynebu safbwyntiau penodol. Nid diffyg safbwynt ydyw, ond yn hytrach, safbwynt golygyddol niwtral. Dylai erthygl ddisgrifio, cynrychioli, a nodweddu'n glir yr holl anghydfodau o fewn pwnc, ond ni ddylai gefnogi unrhyw safbwynt penodol. Dylai'r erthygl esbonio pwy sy'n credu beth, pam, a pha safbwyntiau sy'n gyffredin rhyngddynt. Gall gynnwys gwerthusiadau beirniadol o safbwyntiau penodol yn seiliedig ar ffynonellau dibynadwy, ond rhaid i destunau sy'n esbonio beirniadaethau o safbwynt penodol beidio â chymryd ochrau chwaith.

Tuedd[golygu cod]

Golyga niwtraliaeth fod yn rhaid i safbwyntiau gael eu cynnwys heb duedd. Mae gan bob golygydd a ffynhonnell dueddiadau (mewn geiriau eraill, mae gan bob golygydd a phob ffynhonnell eu safbwyntiau eu hunain) — yr hyn sy'n bwysig yw'r modd yr ydym yn eu cyfuno er mwyn creu erthygl ddiduedd. Golyga ysgrifennu diduedd fod pob ochr y ddadl yn deg ac yn ddadansoddol, gan gynnwys safbwyntiau'r ddwy ochr a'r dystiolaeth gyhoeddedig. Dylai tuedd olygyddol tuag at un safbwynt penodol gael ei dileu neu ei chywiro.

Fformiwla syml[golygu cod]

Cyflwynwch ffeithiau, gan gynnwys ffeithiau am safbwyntiau - ond peidiwch â chyflwyno'r safbwyntiau eu hunain. Diffinnir "ffaith" fel "darn o wybodaeth nad oes modd ei gwestiynu o ddifri." Er enghraifft, mae arolwg sy'n cynhyrchu canlyniad pendant yn ffaith. Mae'r wybodaeth fod yna blaned o'r enw Mawrth yn ffaith. Roedd Plato yn athronydd - ffaith. Nid oes neb o ddifri yn cwestiynu'r datganiadau hyn, ac felly rydym yn cyflwyno cynifer o'r ffeithiau hyn â phosibl. (angen y gwreiddiol i gywiro hwn)

Mae gwerthoedd neu farn, ar y llaw arall, yn cyfeirio at "fater y gellir anghytuno ag ef". Mae nifer o gynigion yn mynegi gwerthoedd neu farn yn glir iawn. Byddai dweud fod dwyn yn anghywir yn werth neu'n farn. Byddai dweud mai The Beatles oedd y band gorau erioed yn farn. Byddai dweud mai'r Unol Daleithiau yw'r unig wlad yn y byd sydd wedi defnyddio arf niwclear mewn cyfnod o ryfel yn ffaith. Byddai dweud fod yr Unol Daleithiau yn gywir neu'n anghywir i ollwng bom atomig ar Hiroshima a Nagasaki yn werth neu'n farn. Fodd bynnag, ceir achosion sydd ar y ffin (gweler Sylw Gormodol) lle nad yw'n glir a ddylid ystyried anghydfod penodol o ddifri a'i gynnwys.

Pan rydym yn trafod barn, rhaid priodoli'r safbwynt i rywun a thrafod fod ganddynt y safbwynt hwn. Er enghraifft, yn hytrach na dweud "The Beatles oedd y band gorau erioed", dewch o hyd i ffynhonnell megis cylchgrawn Rolling Stone a dywedwch: "Dywed Rolling Stone mai'r "Beatles oedd y band gorau erioed", a chynhwyswch y rhifyn lle gwnaed y datganiad. Yn yr un modd, gellir gwneud y datganiad "Cred y rhan fwyaf o drigolion Lerpwl mai'r Beatles oedd y band gorau erioed" pe gellid ei gefnogi gyda chyfeiriadau i arolwg penodol; gellid gwneud honiad fel "Aeth nifer o ganeuon The Beatles i siart senglau'r Deyrnas Unedig", oherwydd gellir ei wirio fel ffaith. Cyflwyna'r datganiad cyntaf safbwynt personol; cyflwyna'r ail y ffaith fod safbwynt yn bodoli a gellir ei briodoli i ffynonellau dibynadwy.

Wrth gyfeirio at safbwyntiau cyferbyniol, mae'n angenrheidiol sicrhau fod y cyfeiriadau'n adlewyrchu lefelau cymharol nifer y bobl sy'n cefnogi'r safbwyntiau hynny, ac nad yw'n creu cam argraff o baredd. Er enghraifft, byddai datgan "yn ôl Simon Wiesenthal, roedd yr Holocost yn rhaglen i ddifa'r Iddewon yn yr Almaen, ond mae David Irving yn anghytuno â'r dadansoddiad hwn" yn rhoi paredd ymddangosiadol rhwng safbwynt y mwyafrif llethol o bobl a'r safbwynt lleiafrifol drwy glustnodi un hanesydd unigol yn y maes i ddwy ochr y ddadl.

Nid yw'n ddigonol i drafod safbwynt fel ffaith dim ond trwy ddatgan "cred rhai pobl...", arfer a gyfeirir ato fel "priodoli torfol". Dylai ffynhonnell ddibynadwy sy'n cefnogi cred a ddelir gan grŵp o bobl ddisgrifio'n fanwl pa mor fawr yw'r grŵp hwnnw. Yn ogystal â hyn, fel arfer ceir anghydweld ynglŷn â sut y dylai safbwyntiau gael eu datgan yn gywir. Er mwyn cynrychioli'r prif safbwyntiau mewn anghydfod yn deg, mae weithiau'n angenrheidiol i gyfiawnhau disgrifiad o'r safbwynt, neu gyflwyno sawl datganiad o'r safbwynt hwn a'u priodoli i grwpiau penodol.

Mae dethol ffynonellau dibynadwy hefyd yn bwysig ac yn allweddol ar gyfer creu erthyglau gydag arddull ddiduedd. Wrth drafod y ffeithiau sydd wrth wraidd safbwynt, mae'n bwysig cynnwys y ffeithiau y seilir safbwyntiau cyferbyniol arnynt am fod hyn yn cynorthwyo'r darllenydd i werthuso hygrededd y safbwyntiau cyferbyniol. Dylid gwneud hyn heb awgrymu fod unrhyw un o'r safbwyntiau hyn yn gywir. Mae hefyd yn bwysig gwneud yn eglur pwy sydd yn rhannu'r safbwyntiau hyn. Gan amlaf, mae'n well nodi ffynhonnell gan gynrychiolydd blaenllaw'r safbwyntiau hyn.