Sgwrs:Adamsdown

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Gwrthddweud[golygu cod]

Dwi ddim eisiau dadlau am yr enw, ond ceir dau osodiad gwrhgyferbyniol yma:

Defnyddir weithiau y ffurf Gymraeg Waunadda am yr ardal, megis yn yr erthygl ar Gaerdydd yn Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Ond ymddengys mai bathiad diweddar yw'r ffurf hon, ac nid oes tystiolaeth fod Adam Kygnot (gan gymryd mai ef a roes ei enw i'r ardal) wedi cael ei alw'n 'Adda'.
Y ffurf Adamsdown, fodd bynnag, yw'r un arferol yn y Gymraeg fel y Saesneg, a honno a ddefnyddir gan Gyngor Caerdydd a Gwyddoniadaur Cymru.

Does gen i ddim copi o'r Gwyddoniadur (dydy 10 cyfrol hynafol Y Gwyddoniadur Cymreig sydd ar fy silffoedd ddim o gymorth, yn anffodus!): all rhywun wirio hyn, os gwelwch yn dda? Anatiomaros (sgwrs) 18:53, 30 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]

Adamsdown (Waunadda). Ymddiheuriadau am fod cyhyd! Gyda llaw, does dim cofnod o'r lle yn Dictionary of the Place-names of Wales. Llywelyn2000 (sgwrs) 16:33, 5 Rhagfyr 2018 (UTC)[ateb]