Sgwrs:'Lle Pyncid Cerddi Homer a Virgil Geinber Gynt'

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Cawlach gan Gwales - unwaith yn rhagor![golygu cod]

Mae'n ymddangos nad ydy Gwales - ceidwaid ein llên?! - yn gwybod mai un dyn oedd "Evan Evans a Ieuan Glan Geirionydd" nid dau ar wahân. Fel hyn roedd y testun cyn i mi ei ddiwygio rwan: "Darlith ar Evan Evans o Drefriw a Ieuan Glan Geirionydd a'u haddysg glasurol". Nid dyma'r unig enghraifft o anwybodaeth druenus ar eu gwefan, ysywaeth. Anatiomaros (sgwrs) 00:44, 27 Awst 2014 (UTC)[ateb]

Lwcus nad oes ganddyn nhw adolygiad ar eu gwefan! Efallai y byddai'n dechrau fel hyn: "Ceir elfennau sgitsoffrengig yng ngwaith y bardd hwn a pheth o'r rhai o'r cerddi'n dangos natur dauwynebog y bardd..." neu efallai, "Mae cymaint o elfennau yng ngwaith y ddau fardd yma'n ymdebygu i'w gilydd nes ymylu ar len-ladrad!" Well spotted! Llywelyn2000 (sgwrs) 06:37, 27 Awst 2014 (UTC)[ateb]
LOL "Dau ddyn tebyg iawn i'w gilydd oedd Evan Evans a Ieuan Glan Geirionydd. Cawsant eu geni ar yr un awr a diwrnod yn Nhrefriw ac i'r un fam hefyd, er nad oeddent yn gefeilliaid..." Anatiomaros (sgwrs) 23:21, 27 Awst 2014 (UTC)[ateb]