Sejanus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
As o'r flwyddyn 31 gyda delwedd Tiberius, ac ar y cefn yr arysgrif Augusta Bilbilis Ti(berius) Caesare L(ucius) Aelio Seiano, yn dynodi cyfnod Sejanus fel Conswl y flwyddyn honno.

Pennaeth Gard y Praetoriwm ac un o'r dynion mwyaf grymus yn yr Ymerodraeth Rufeinig oedd Lucius Aelius Seianus neu Sejanus (20 CC - 18 Hydref, 31 OC).

Ganed Sejanus yn 20 CC yn Volsinii yn Etruria. Daeth yn bennaeth Gard y Praetoriwm dan yr ymerawdwr Augustus yn y flwyddyn 14 OC, a bu yn y swydd hyd ei farwolaeth yn 31. Dano ef, daeth y Gard i fod yn fwy na gwarchodlu, gan ddatblygu i fod o bwysigrwydd gwleidyddol mawr. Yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Tiberius, cynyddodd grym Sejanus. Yn y 20au cafodd ware o nifer o bobl oedd yn bygwth ei sefyllfa, yn cynnwys mab yr ymerawdwr, Julius Caesar Drusus, a gafodd ei wenwyno. Pan ymddeolodd Tiberius i ynys Capri yn 26, Sejanus oedd yn rheoli'r ymerodraeth i bob pwrpas.

Yn 31 fe'i gwnaed yn Gonswl, ond yr un flwyddyn daeth dan amheuaeth o gynllwynio yn erbyn yr ymerawdwr. Fe'i cymerwyd i'r ddalfa, a dienyddiwyd ef a nifer o'i ddilynwyr.