Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2008 - Ras ffordd merched
| Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2008 |
||||
|---|---|---|---|---|
| Seiclo Ffordd |
||||
| Ras ffordd | dynion | merched | ||
| Treial amser | dynion | merched | ||
| Seiclo Trac |
||||
| Pursuit unigol | dynion | merched | ||
| Pursuit tîm | dynion | |||
| Sbrint | dynion | merched | ||
| Sbrint tîm | dynion | |||
| Ras bwyntiau | dynion | merched | ||
| Keirin | dynion | |||
| Madison | dynion | |||
| Beicio Mynydd |
||||
| Traws-gwlad | dynion | merched | ||
| BMX |
||||
| BMX | dynion | merched | ||
Cynhalwyd ras ffordd merched Gemau Olympaidd yr Haf 2008 ar 9 Awst ar y Cwrs Seiclo Ffordd Trefol. Roedd y ras yn 126.4 cilometr (78.29 milltir o hyd a gwblhawyd mewn amser o 3 awr 32' 24", sef 35.71 cilometr yr awr (22.19 milltir yr awr). Fe gymerodd 66 o ferched o 33 gwlad rhanyn y ras.
Fe ddisgynodd glaw trwm yn ystod y ras, gan greu amodau anodd ar gyfer y reidwyr. Ac er i nifer o reidwyr unigol ymosod oddiar flaen y maes fe dynnwyd pob un yn ôl yn eu tro. Fe dorrodd grŵp o chwech i ffwrdd ar y gylched olaf gan arod i ffwrdd hyd y diwedd lle profodd y Gymraes Nicole Cooke i fod y reidiwr cryfaf ar y dydd.
Roedd beirniadaeth hallt wedi sawl digwyddiad yn ystod y ras: fe gafodd un reidiwr fantais o ddau funud ar flaen y maes ond bu raid iddi stopio gan nad oedd y cwrs wedi ei farcio'n glir. Disgynodd Gu Sungeon o Dde Corea reolaeth ar ei beic mewn un o'r damweiniau gan ddodd ac eraill i lawr gyda hi a disgyn i ffôs concrid dwfn ar ymyl y ffordd.
Roedd y ras hefyd yn nodi'r seithfed tro i'r seiclwraig Ffrengig, Jeannie Longo ddechrau'r ras Olympaidd, a hithau'n 49 oed; fe orffennodd yn y 24ydd safle.
Roedd Maria Isabel Moreno o Sbaen i fod i gymryd rhan yn y ras, ond fe adawodd Beijing y diwrnod cynt. Datganwyd ar 11 Awst ei bod wedi profi'n bositif ar gyfer EPO, hwn oedd y prawf cyffuriau positif cyntaf yng Ngemau 2008.
Canlyniadau [golygu]
| Safle | Reidiwr | Amser |
|---|---|---|
| 3 awr 32′ 24″ | ||
| 3 awr 32′ 24″ | ||
| 3 awr 32′ 24″ | ||
| 4 | 3 awr 32′ 28″ | |
| 5 | 3 awr 32′ 32″ | |
| 6 | 3 awr 32′ 45″ | |
| 7 | 3 awr 32′ 45″ | |
| 8 | 3 awr 32′ 45″ | |
| 9 | 3 awr 32′ 45″ | |
| 10 | 3 awr 32′ 45″ |