Marianne Vos

Oddi ar Wicipedia
Marianne Vos
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnMarianne Vos
Dyddiad geni (1987-05-13) 13 Mai 1987 (36 oed)
Manylion timau
DisgyblaethFfordd, Cyclo-cross & Beicio Mynydd
RôlReidiwr
Tîm(au) Proffesiynol
2006
2007
Team DSB-Ballast Nedam
Team DSB Bank
Prif gampau
Gemau Olympaidd, Ras bwyntiau 2008
Gemau Olympaidd, Ras ffordd 2012
Pencampwr y Byd, Rasio Ffordd 2006
Pencampwr y Byd, Cyclo-cross 2006, 2009, 2010, 2011, 2012
Pencampwr y Byd, Ras bwyntiau 2008
Pencampwr y Byd, Ras scratch 2011
Cwpan y Byd Ffordd (Merched) UCI 2007
Golygwyd ddiwethaf ar
21 Awst 2012

Seiclwraig ffordd proffesiynol Iseldiraidd ydy Marianne Vos (ganwyd 13 Mai 1987). Mae wedi cael ei chymharu â Eddy Merckx fel "un o'r reidwyr gorau o'i chenhedlaeth".[1]

Ar ôl ennill pencampwriaethau Ewrop a'r byd ar y ffordd yn y categori Iau, aeth ymlaen i ennill Bencampwriaethau'r Byd ar y ffordd ac yn cyclo-cross yn ei blwyddyn cyntaf fel reidiwr hyn yn 19 oed. Aeth ymlaen i ddod yn bencampwraig y byd ar y trac yn ogystal wedi ennill y ras bwyntiau yn 2008 a'r ras scratch yn 2011. Enillodd y fedal aur yn y ras bwyntiau yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2008 a'r ras ffordd yn 2012.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Marianne Vos yn 's-Hertogenbosch, Noord-Brabant a mae'n byw yn Meeuwen. She started her career when she was six years old after she watched her older brother who was already a cyclist.[2] Dechreuodd hyfforddi gan reidio gyda thîm ei brawd, ond nid oedd yn cael cystadlu i gychwyn, a dechreuodd reidio cyclo-cross yn ystod y gaeaf yn ogystal. Dechreuodd rasio cyn gyntad a gallai pan oedd yn 8 oed.[2] Cystadlodd hefyd mewn sglefrio cyflymder a sglefrio cyflymder mewn-lein. Pan oedd yn 14, rhoddodd y gorau ar sglefrio a dechreuodd feicio mynydd yn hytrach.

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: