Satyajit Ray
Cyfarwyddwr ffilm o Bengal, India oedd Satyajit Ray (
Siotojit Rai ?/i ) (2 Mai 1921 – 23 Ebrill 1992). Tybia amryw ei fod yn un o gyfarwyddwyr ffilm pennaf yr ugeinfed ganrif.[1] Ganed ef yn ninas Kolkata. Hanai o deulu amlwg ym myd y celfyddydau. Astudiodd Ray yn Presidency College ac ym Mhrifysgol Visva-Bharati. Dechreuodd ar yrfa artist masnachol. Cyneuwyd ei ddiddordeb mewn gwneud ffilmiau trwy ddau ddigwyddiad: cyfarfu â'r cyfarwyddwr ffilm Jean Renoir o Ffrainc, ac fe welodd y ffilm newydd-realaidd Ladri di Biciclette o'r Eidal tra ar ymweliad â Llundain.
Cyfarwyddodd Ray 37 o ffilmiau, yn brif ffilmiau, ffilmiau dogfen a ffilmiau byrion. Enillodd ffilm gyntaf Ray, Pather Panchali, 11 o wobrau rhyngwladol, gan gynnwys y wobr am y Ddogfen Ddynol Orau yng Ngŵyl Ffilm Cannes. Hon oedd y cyntaf mewn cyfres o dair ffilm am y cymeriad Apu; Aparajito a Apur Sansar yw'r ddwy ffilm arall yn y gyfres. Yn ogystal â chyfarwyddo, roedd Ray yn ysgrifennu sgriptiau, yn dewis actorion, yn cyfansoddi cerddoriaeth, yn ffilmio, yn cyfarwyddo'r adran ddylunio, yn golygu, ac yn dylunio'r teitlau cydnabod a'r hysbysebion. Roedd hefyd yn awdur ffuglen, yn gyhoeddwr, yn ddarlunydd, yn ddylunydd graffig ac yn feirniad ffilm. Enillodd Wobr yr Academi yn 1992.
Ffynonellau [golygu]
- ↑ Santas, Constantine, Responding to Film: A Text Guide for Students of Cinema Art (Rowman and Littlefield, 2002)