Sarah Williams (Sadie)

Oddi ar Wicipedia
Sarah Williams
FfugenwSadie Edit this on Wikidata
Ganwyd1837 Edit this on Wikidata
Marylebone Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ebrill 1868 Edit this on Wikidata
Kentish Town Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Queen's College, Llundain Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, nofelydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Roedd Sarah Williams (Rhagfyr 183725 Ebrill 1868) yn fardd a nofelydd o dras Gymreig, yn fwyaf enwog fel awdur y gerdd "The Old Astronomer".[1] Cyhoeddodd weithiau byrion ac un casgliad o farddoniaeth yn ystod ei hoes o dan y ffugenwau Sadie a S.A.D.I., Ystyriodd bod Sadie yn rhan o'i henw go iawn yn hytrach nag enw barddol.[2] Ymddangosodd ei hail gasgliad barddoniaeth a nofel a gyhoeddwyd wedi ei marwolaeth o dan ei henw bedydd.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Sadie ym mis Rhagfyr 1837 yn Marylebone, Llundain, yn ferch i Robert Williams (c. 1807-1868), Cymro, o Sir Gaernarfon yn wreiddiol a oedd yn gwerthu hosanau a sidan yn Llundain[3], a'i wraig Seisnig Louisa Ware (c. 1811-1886).[4] [5] Roedd hi'n agos iawn at ei thad ac yn ystyried bod ei doniau barddol yn deillio oddi wrtho ef.[6] Fel plentyn ifanc roedd hi'n methu ynganu 'Sarah', yn anfwriadol rhoddodd y llysenw 'Sadie' iddi ei hun.[2] Roedd hi'n unig blentyn.

Cafodd ei haddysgu gartref yn gyntaf gan ei rhieni, ac yn ddiweddarach gan dysgodresau.[6]

Gweithiau[golygu | golygu cod]

The Old Astronomer yn cael ei adrodd

Er mai dim ond hanner Cymraes oedd Sadie a chafodd ei geni yn Llundain ac na fu'n byw erioed y tu allan i'r ddinas, ymgorfforodd ymadroddion a themâu Cymraeg yn ei cherddi. Er enghraifft mae ei cherdd am ei thad ar ei wely angau yn dwyn y teitl O fy Hen Gymraeg ac yn cynnwys y geiriau hynny ar ddiwedd pob pennill. Mae'r gerdd yn terfynu efo'r cwpled:

"Gorffwysfa O Gorffwysfa

Gogoniant Amen."[7]

(Mewn troednodyn i'r gerdd mae Sadie yn honni bod Handel wedi cael ysbrydoliaeth i'w Corws Haleliwia tra ar daith yng Nghymru a chlywed dychweledigion cyfarfod diwygiad yn llafarganu "Gogoniant Amen"[8])

Roedd hi'n ystyried ei hun ac yn cael ei chyfrif gan eraill, fel bardd Cymreig.[9][10]

Bu farw Robert Williams yn sydyn yn Ionawr 1868. Ar adeg marwolaeth ei thad roedd Sadie yn gwybod bod hi'n dioddef o gancr. O dan y loes o golli ei thad gwaethygodd ei chyflwr. [6] Ar y cychwyn bu Sadie yn cuddio ei salwch rhag ei theulu a'i chyfeillion. Wedi iddynt ddod i wybod am gyflwr ei hiechyd rhyw tri mis ar ôl farwolaeth ei thad, cytunodd i gael llawdriniaeth er ei bod yn gwybod y gallai ei lladd. Bu farw yn Kentish Town, Llundain yn ystod llawdriniaeth ar 25 Ebrill 1868. [5] [11]

Cyhoeddwyd ei hail lyfr barddoniaeth, Twilight Hours: A Legacy of Verse, ar ddiwedd 1868.[12] Roedd y casgliad yn cynnwys "The Old Astronomer", ei cherdd enwocaf. Mae ail hanner pedwerydd pennill y gerdd yn cael ei dyfynnu’n eang:

Though my soul may set in darkness, it will rise in perfect light;
I have loved the stars too truly to be fearful of the night.[13]

"Set in Darkness" oedd teitl un o nofelau'r gyfres Inspector Rebus gan yr awdur Albanaidd Ian Rankin. Mae Rankin yn dyfynnu’r llinellau uchod yn rhagymadrodd y llyfr.

Ysgrifennwyd "The Old Astronomer" o safbwynt seryddwr oedrannus ar ei wely angau yn gwneud cais i'w fyfyriwr barhau â'i ymchwil diymhongar. Mae'r llinellau wedi'u dewis gan nifer o seryddwyr proffesiynol ac amatur fel eu beddargraffiadau.[5] [14]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Williams, Sarah, "The Old Astronomer (ar Wicidestun Saesneg)", Twilight Hours, https://en.wikisource.org/wiki/Twilight_Hours_(1868)/The_Old_Astronomer, adalwyd 2022-12-30
  2. 2.0 2.1 Plumptre, Edward Hayes (1868). Williams, Sarah (gol.). Twilight Hours: A Legacy of Verse. Strahan. tt. vii–xxxiii. Cyrchwyd 14 Awst 2022.
  3. Yr Archif Genedlaethol; Cyfrifiad 1851; St Marylebone, Llundain Cyfeirnod HO107/ 1486; Ffolio: 588; Tud: 11;
  4. "Mynegai Genedigaethau". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 14 Awst 2022.
  5. 5.0 5.1 5.2 Hughes, Stefan (2012). Catchers of the Light: The Forgotten Lives of the Men and Women Who First Photographed the Heavens (PDF). ArtDeCiel Publishing. t. i. ISBN 9781620509616.
  6. 6.0 6.1 6.2 Miles, Alfred Henry, gol. (1898). The Poets and the Poetry of the Nineteenth Century. 7. tt. 573–594.
  7. Yr Awen Gymreig Mewn Diwyg Seisnig; Cymru; 61, 1921; tud 159
  8. Bye-gones relating to Wales and the border counties;Ebrill 1876, tud 42—"Handel in Wales"
  9. J.J. (1885). Harris, James. ed. "Queries". The Red Dragon: The National Magazine of Wales 8: 406. https://books.google.com/books?id=KBYJAQAAIAAJ&pg=PA406.
  10. Edwards, Owen Morgan (1922). "Pen yr Yrfa" . Er Mwyn Cymru . Wrecsam: Hughes a'i Fab. t. 114.
  11. Macleod, Norman, ed. (1 Mehefin 1868). ""Sadie": In Memory of an Esteemed Contributor". Good Words (Strahan & Co.). https://books.google.com/books?id=rzMFAAAAQAAJ&pg=PA379. Adalwyd 14 Awst 2022.
  12. Williams, Sarah (1868).Twilight hours, a legacy of verse; introduction by Plumptre, E. H., Strahan & Co., London. Adalwyd 14 Awst 2022
  13. Williams, Sarah (1868). "The Old Astronomer". Twilight Hours. Strahan & Co. t. 69.
  14. Barnes, Don (March 1998). "'I Have Loved the Stars Too Fondly'". Sky and Telescope 95 (3): 10. Bibcode 1998S&T....95c..10B. https://archive.org/details/sim_sky-and-telescope_1998-03_95_3/page/10.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]